Ymunwch â miloedd yn rali OS MAWR Llundain ddydd Sadwrn 8 Mehefin am 2pm yn Hyde Park mynnwch ddiwedd ar newyn yn y byd. Rydym angen i chi helpu i greu sŵn a gosod deiseb enfawr, weledol na all arweinwyr yr G8 ei hanwybyddu.
Wyddech chi? Nid oes gan un o bob wyth o bobl y byd ddigon o fwyd i gadw’n iach. Bob 15 eiliad, mae plentyn yn marw o newyn. Mae digon o fwyd i bawb, ond nid oes gan bawb ddigon o fwyd. Dyma sgandal tawel ac anghyfiawnder ein hoes.
Ym mis Mehefin, daw arweinwyr y byd at ei gilydd i benderfynu ar ffawd miliynau yn Uwchgynhadledd yr G8. OS codwch eich llais ar enoughfoodif.org ac ymuno â ni yn Llundain, gallwch helpu i wneud digon o sŵn i’w perswadio i roi terfyn ar sgandal tawel newyn.
Gall penderfyniadau ein harweinwyr newid y dyfodol i filiynau o famau a thadau yng ngwledydd tlotaf y byd sy’n gweithio’n galed, ond nad ydyn nhw’n gallu bwydo eu plant.
Mae digon o fwyd i bawb OS bydd arweinwyr y byd yn rhoi terfyn ar sgandal osgoi treth mewn gwledydd tlawd, atal pobl rhag bachu tir, a defnyddio tir ar gyfer bwyd, nid biodanwydd. Dim ond OS gwnawn ni ymuno â’r ymgyrch, codi ein llais a dangos ein cefnogaeth y gwnaiff hyn ddigwydd.
Fe wnaeth OS helpu i sicrhau fod y Llywodraeth yn cadw at ei haddewid ar gymorth. Bob dydd, mae cymorth yn helpu i atal a delio â newyn. Mae’n helpu miliynau o blant fel Adoun, sy’n 2 oed. Yn ystod y sychder yn Chad llynedd, dioddefodd Adoun gymaint yn sgil diffyg maeth fel na allai gerdded, ac roedd ei fam Zenaba yn sâl yn poeni amdano. O ganlyniad i gymorth rhyngwladol, cafodd Adoun fwyd a achubodd ei fywyd.
Diolch i filoedd ohonoch a ymgyrchodd ar gymorth, gallwn barhau i atal a delio â newyn ymhlith miliynau o blant fel Adoun. Ymunwch â ni a gwneud i OS ddigwydd, a byddwch yno ar ddechrau’r diwedd i newyn.
Helpwch i fynd i’r afael â newyn ac arbed miliynau o fywydau drwy fynd i Hyde Park yn Llundain ar 8 Mehefin 2013 ar gyfer rali #BIGIF ar 8 Mehefin am 2pm. Ewch i enoughfoodif.org am ragor o fanylion.
Gofrestru eich lle nawr. Bysus yn mynd led led Cymru!