Apêl Argyfwng Syria– Oxfam yn apelio am ragor o help

Hoffai Oxfam Cymru ddiolch i’r nifer helaeth o bobl ar draws Cymru am eu hymateb hael I’r argyfwng dyngarol yn Syria. Ond wrth i’r sefyllfa ddwysáu mae Oxfam yn apelio am ragor o arian er mwyn ceisio helpu 650,000 pobl dros y 12 mis nesa. Yr argyfwng hwn yw prif flaenoriaeth Oxfam nawr.  

Pam?

Mae’r ystadegau’n :

Mae angen cymorth dyngarol ar bron i saith miliwn o bobl yn Syria;

Mae mwy na 1.4 miliwn o ffoaduriaid wedi ffoi ac mewn angen dybryd o lochs, bwyd a dŵr;

Mae 8,000 o bobl yn ffoi o Syria bob dydd;

Mae trais yn parhau i gynyddu a ffrwydron yn aml yn targedu ardaloedd poblog iawn. reas.

Beth r’yn ni’n ‘neud?

Mae Oxfam ar lawr gwlad yn yr Iorddonen a Lebanon yn darparu cymorth argyfwng I ffoaduriaid. Ry’n ni’n darparu dŵr glan a systemau glanweithdra, tai, lloches ac yn diwallu anghenion sylfaenol pobl.

Ond mae mwy.  

Mae Oxfam yn gwybod bod angen ateb hir dymor a dyna pam ry’n ni’n lobїo’n galed am ragor o gymorth rhyngwladol ac ymrwymiad rhyngwladol am heddwch parahol.

Helpwch ni plis

Rhowch nawr

neu texcstiwch SYRIA i 70066 i roi £5

Bydd y neges yn costio £5 yn ogystal a phris arferol eich neges.

Wyddoch chi gall £5 helpu i roi blanced, matres a chlustog i rywun, gall £10 helpu rywun gael toiled diogel a glan a gall £20 helpu rhoi lloches i ryuwn?

Arwyddwch ddeiseb Syria   

Mae Llywodraeth prydain eisoes wedi addo £30 miliwn ychwanegol o gymorth dyngarol wedi pwysau o’r cyhoedd.

Mwy o wybodaeth

Eim ymateb

Blogiau eraill:

Katy Wright in Lebanon

Reema, a girl you’ll never see

Fideos

Diolch yn fawr / Thank you