O’r planhigyn i’r plât yn Nhŷ Tredegar

Cychwynnodd prosiect o’r planhigyn i’r plât yn y rhandir yn Nhŷ Tredegar ddydd Mercher. Cawsom gwmni tri o’r teuluoedd sy’n cefnogi drwy Brosiect Tlodi yn y Deyrnas Unedig Oxfam yng Nghyswllt Cymunedol y Dyffryn, ac fe aethon nhw ati’n frwd i weithio.

“Fe wnaethon nhw gyflawni llawer yn ystod y diwrnod cyntaf ar y safle – gosod wyth gwely plannu wedi’u codi yn eu lle, a hau hadau yn y tŷ gwydr. Roedd ymdeimlad cryf o waith tîm yno, ac fe wnaeth pawb fwynhau eu hunain yn fawr iawn, i’r graddau na allan nhw ddisgwyl nes cawn nhw ddod yn ôl wythnos nesaf,” meddai Jane Lewis, cydlynydd dysgu Cyswllt Cymunedol y Dyffryn.

“Mae’n bwysig fod plant yn dysgu o ble daw bwyd, fel eu bod nhw’n deall sut mae cadw’n iach.

“Cawsom syniad o osod stondinau a phoptai yn y rhandir yn y dyfodol, fel y gallwn ystyried paratoi bwyd a syniadau am ryseitiau ar ôl tyfu’r bwyd,” ychwanegodd.

Gallwch weld rhagor o ffotograffau fan hyn