Trip i’r Bae

Ysgrifenna Anna McVicker:

Yr wythnos hon fe aeth pedair merch o grŵp Meithrin Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau Oxfam yng Nghanolfan Datblygu Cymuned De Glan yr Afon ar fws i Fae Caerdydd am brynhawn difyr yn yfed coffi a gweld diwylliant. Nid oedd yr haul yn tywynnu, ( i ddweud y gwir, roedd hi’n arllwys y glaw), ond fe wnaethon ni gael llawer o hwyl.

Cafodd y daith ei threfnu ar ôl i rai o’r merched sôn nad oedd llawer ohonyn nhw erioed wedi bod ar fws yng Nghaerdydd. Roedd llawer o resymau dros hyn, yn cynnwys dim clem pa rif bws oedd yn mynd i ble, beth oedd pris tocyn bws, na lle i roi eich arian cyn eistedd.

Gan fod Bae Caerdydd dafliad carreg o Lan yr Afon, roedd dechrau yn y fan honno yn gwneud synnwyr. Aethom i Adeilad y Pierhead, a arferai fod yn brif swyddfa’r porthladdoedd, yn y dyddiau pan oedd Caerdydd yn borthladd mwyaf y byd a chanolbwynt enfawr yn y diwydiant glo. Yna, aethom am goffi a chacennau cri i Ganolfan y Mileniwm, a chawsom ein difyrru gan gerddoriaeth fyw yn y cyntedd.

Roedd y daith i’r Bae yn hwyl, ond ei phwrpas yn fwy na dim oedd codi hyder y merched. Mae rhai ohonyn nhw’n dibynnu’n drwm ar eu perthnasau gwryw i’w cludo o un lle i’r llall, ac yn amlwg nid yw hynny’n ddelfrydol. Dywedodd un ddynes ei bod bellach yn teimlo’n ddigon hyderus i deithio ar fws i’r Bae gyda’i merch a’i gŵr, gan ei bod yn gwybod pa ffordd i fynd a’r pris. Roedd hefyd yn gyfle da i ymarfer sgiliau siarad Saesneg, gan ddechrau wrth ofyn ‘i ble rydych chi’n mynd yn eich cymdogaeth?’

Mae’r ymweliadau sy’n cael eu trefnu at y dyfodol yn cynnwys Sain Ffagan, Parc y Rhath, y Senedd a thaith i’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe. Brysied yr haf!

Mae’r prosiect hwn yn un o brosiectau Rhaglen Tlodi’r Deyrnas Unedig Oxfam. Ei amcan yw rhoi hwb i gynhwysiant cymdeithasol ymysg preswylwyr croenddu a lleiafrifoedd sydd wedi sefydlu’n dda yng Nglan yr Afon.