Mae Cymru’n wynebu sgandal cudd, gyda miloedd o bobl yn methu bwydo eu hunain na’u teuluoedd, yn ôl adroddiad di-flewyn-ar-dafod gan Oxfam a Church Action on Poverty.
Mae’r ddwy elusen, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Trussell, yn galw am Ymchwiliad Seneddol brys i’r berthynas rhwng oedi, gwallau neu sancsiynau mewn budd-daliadau, newidiadau i’r system les a thwf yn y ‘newynog cudd’.
Mae’r adroddiad, Walking the Breadline, yn dweud bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd i’w briodoli i newidiadau yn y system fudd-daliadau, diweithdra, tan-gyflogaeth, incwm isel ac achosion o incwm yn gostwng, a chynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd.
Newidiadau i’r system fudd-daliadau yw’r rhesymau mwyaf cyffredin dros ddefnyddio banciau bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i reolau cymhwyster am fenthyciadau mewn argyfwng, oedi gyda thaliadau, sancsiynau ar Lwfans Ceisio Gwaith ac ailasesiadau budd-daliadau salwch.
Dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru: “Y realiti syfrdanol yw bod miloedd o bobl yng Nghymru yn ddibynnol ar gymorth bwyd erbyn hyn. Mae toriadau i rwydi diogelwch cymdeithasol wedi mynd yn rhy bell, gan arwain at amddifadrwydd, caledi a newyn ar raddfa fawr. Mae’n annerbyniol fod hyn yn digwydd yn y seithfed cenedl gyfoethocaf ar y blaned.”
Daw’r adroddiad yn sgil ffigyrau gan fanciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, a ddatgelodd fod dros 35,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn o leiaf dridiau o fwyd mewn argyfwng ganddyn nhw llynedd, sy’n fwy na dwywaith y nifer a gafodd gymorth yn 2011-12.
Am rhagor o wybodiaeth, gweler: https://www.oxfam.org.uk/what-we-do/issues-we-work-on/poverty-in-the-uk