Oxfam yn cynnal noson i’ch ysbrydoli yng Nghas-Gwent ym mis Gorffennaf

Nos Iau, 4 Gorffennaf, am 7pm, bydd Oxfam yn cynnal sgwrs i’ch ysbrydoli yn Neuadd yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghas-gwent. Mae croeso i bawb, a’n siaradwr gwadd fydd Adele Carter, un o wirfoddolwyr Oxfam. Yn dilyn ei hymweliad diweddar a Nicaragua, bydd Adele ym siarad am ei phrofiad o waith datblygu Oxfam ar ynni adnewyddadwy, eiriolaeth a rhoi cymorth i fusnesau bach.

Gan mai Nicaragua yw’r wlad dlotaf yn hemisffer y Gorllewin, mae gan Oxfam nifer o brosiectau yno. Gwelodd Adele enghreifftiau o waith Oxfam yn rhanbarth y Bosawas. Yn y fan hon, roedd Oxfam yn cydweithio â’r bobl leol er mwyn eu cynorthwyo i ddechrau eu busnesau eu hunain, megis busnesau yn y diwydiant llaeth, siocled a dodrefn.

Dywedodd Adele, “buom yn teithio am bron i dridiau cyn cyrraedd un ardal lle mae Oxfam yn gweithio. Mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor anodd yw hi i bobl leol gyrraedd y pethau symlaf, a pha mor bell ydyn nhw o gymorth. Roedd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth a roddodd Oxfam yn golygu fod grŵp o ferched wedi dechrau eu cydweithfa siocled eu hunain, ac o ganlyniad, mae’r menywod hyn yn ysbrydoliaeth wych i ferched y genhedlaeth nesaf.”

Fe wnawn hefyd ddweud wrthych sut mae Oxfam yn ymateb i’r argyfwng dyngarol difrifol yn Syria. Ar hyn o bryd mae Oxfam wrthi’n helpu miloedd o bobl sydd wedi ffoi i’r gwledydd cyfagos i osgoi’r gwrthdaro, drwy anfon cymorth bwyd, pecynnau glanweithdra, ac eitemau eraill y cartref er mwyn helpu pobl sydd mewn angen dyngarol.

Mae cefnogwyr Oxfam wirioneddol yn mwynhau cael gwybod mwy am waith Oxfam yn achub bywydau pobl yn y sgyrsiau ysbrydoledig dan sylw. Os hoffech wybod mwy am yr hyn mae Oxfam yn ei wneud, a sut rydym yn mynd ati i roi’r prosiectau hyn ar waith, ymunwch â ni yn Neuadd yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghas-gwent, Sgwâr Albion, Cas-gwent, NP16 5DA nos Iau, 4 Gorffennaf am 7pm. Bydd croeso cynnes i ffrindiau a theulu!

Ateber drwy gysylltu â Lorraine Rees ar Lrees@oxfam.org.uk neu 0300 200 1269