Digon o fwyd i bawb…? OS bydd Cymru’n chwarae ei rhan

Ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf, aeth glaswellt Hyde Park o’r golwg dan draed 45,000 o bobl, gan gynnwys llond bysiau o Gymru, wrth iddyn nhw ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch Digon o Fwyd i Bawb OS.

Lansiwyd ymgyrch Digon o Fwyd i Bawb OS yng Nghymru pan oedd tir Castell Caerdydd dan orchudd o eira ym mis Ionawr, ac ers hynny mae digwyddiadau a chefnogaeth wedi ymledu drwy’r wlad, gan ennill momentwm ar gyfer yr OS MAWR yn Llundain. 

Fe wnaeth rali OS Mawr yn Llundain nodi dechrau’r cyfrif i lawr at uwchgynhadledd yr G8, lle’r oedd arweinwyr cenhedloedd cyfoethocaf y byd yn meddu ar y grym i weithredu ar newyn byd-eang.  Fe wnaeth pobl o bob rhan o Gymru sicrhau fod lleisiau’r ymgyrchwyr yn cael eu clywed, ac fe wnaeth Steve Smith o Oxfam Cymru helpu i greu’r ddeiseb weledol o 250,000 o flodau’n troelli, a oedd yn cynrychioli’r miliynau o blant sy’n marw o ddiffyg maeth bob blwyddyn.

Ond nid dyna’r diwedd. Aeth mintai o Gymru, wedi’u harfogi â ‘neges mewn potel’ enfawr, i Belfast drwy Gaergybi i ddanfon y miloedd o negeseuon o Gymru, a gasglwyd ledled y wlad, a’u cyflwyno i David Cameron yn yr uwchgynhadledd.

Llwyddiant, ond mae angen gwneud rhagor

Roedd yn dipyn o gamp sicrhau bod y G8 yn cymryd camau ar dir ac ar drethi. Gallwch ddarllen beth wnaeth yr G8 a beth na wnaethon nhw fan hyn ar wefan Oxfam. Ond, fel y gwelwch, mae llawer o bethau pwysig heb eu cwblhau, felly bydd Oxfam yn troi’n ôl at ymgyrchu ar y materion hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar gyfer yr haf, mae ymgyrch OS yn esblygu yng Nghymru, gan edrych yn nes adref ar sut gall Llywodraeth Cymru chwarae ei rhan i roi terfyn ar newyn.

Er mwyn cymryd rhan yn ymgyrch OS Cymru a helpu Cymru i chwarae ei rhan, anfonwch e-bost: oxfamcymru@oxfam.org.uk neu ewch i enoughfoodifcymru.org

Lluniau a fideos Llundain: https://storify.com/oxfamcymru/bigiflondon

Lluniau a fideos Belfast: https://storify.com/oxfamcymru/bigifbelfast

Rhagor o ffotograffau ar https://www.flickr.com/photos/tags/ifcymru/