Ymhen wythnos, bydd Oxfam yn cynnal sgwrs ysbrydoledig ym Mhenarth (dydd Llun, 17 Mehefin). Bydd ein siaradwraig wadd, Lydia Slack, yn siarad am ei phrofiad personol o weld gwaith datblygu Oxfam yn ystod ei hymweliad ag Uganda yn ddiweddar. Fel un o wirfoddolwyr Oxfam, cafodd Lydia ei dewis yn ddiweddar gan Oxfam i fynd ar daith ddatgelu i Uganda ym mis Chwefror, ynghyd â phedwar gwirfoddolwr arall.
Gwelodd Lydia enghreifftiau o waith Oxfam yn rhanbarth Kitgum yng ngogledd Uganda. Un o’r prosiectau y bu hi’n ymweld ag ef oedd prosiect GALS (Gender Action Learning System), sy’n grymuso merched i fod yn fwy annibynnol, ac sy’n ceisio cynyddu’r parch tuag at leisiau merched mewn busnesau lleol.
Dywedodd Lydia “Roedd y merched y gwnes i gwrdd â nhw mor frwdfrydig ac uchelgeisiol. Fe wnes i gwrdd ag Achan, a oedd ychydig flynyddoedd yn hŷn na fi, ond oedd yn rhiant sengl i ddau o blant ifanc ac a oedd wedi sefydlu ei busnes fferyllol ei hun gyda chymorth GALS. Dywedodd bod yr hyfforddiant a gafodd drwy GALS yn golygu ei bod hi nawr yn gallu talu i’w phlant fynd i’r ysgol.”
Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut mae Oxfam yn ymateb i’r argyfwng dyngarol difrifol yn Syria. Ar hyn o bryd, mae Oxfam yn helpu miloedd o bobl sydd wedi ffoi i wledydd cyfagos er mwyn osgoi’r gwrthdaro, gan ddarparu cymorth bwyd, pecynnau hylendid ac eitemau eraill ar gyfer y cartref i helpu pobl mewn angen dyngarol.
Mae cefnogwyr Oxfam yn falch o’r olwg maen nhw’n ei chael ar waith Oxfam yn achub bywydau, drwy gyfrwng sgwrs ysbrydoledig fel hon. Os hoffech glywed am yr hyn y mae Oxfam yn ei wneud a sut rydym yn gwneud y gwaith hwnnw, ymunwch â ni yn Kymin, Beach Road nos Lun 17 Mehefin am 7pm. Croeso i’ch ffrindiau a’ch teulu, hefyd!
Anfonwch eich ateb at Lorraine Rees drwy Lrees@oxfam.org.uk neu 0300 200 1269 erbyn dydd Iau 13 Mehefin, os gwelwch yn dda