Gwariant uchaf ond hefyd gostyngiad mewn incwm yn ystod un o flynyddoedd mwyaf heriol Oxfam

Yn ystod blwyddyn aruthrol o anodd yn ariannol i Oxfam, mae’r elusen wedi gwario £3.6 miliwn ychwanegol er mwyn ymateb i’r argyfyngau dyngarol a helpu pobl sy’n byw mewn tlodi yn fyd-eang

Mae adroddiad blynyddol Oxfam yn datgelu’r newyddion anhygoel fod yr elusen wedi helpu 13.5 miliwn o bobl mewn 54 o wledydd ac wedi ymateb i 27 o argyfyngau dyngarol y llynedd (2011/12). Ac fe wnaethon nhw hyn er bod eu hincwm wedi lleihau’n aruthrol o £17.6 miliwn.

Dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd yn ariannol i Oxfam, fel y mae hi wedi bod i bobl y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Er gwaethaf hyn, mae Oxfam wedi parhau i gynorthwyo’r rhai hynny sydd mewn angen ledled y byd, yn ymateb i flwyddyn arall o dywydd eithafol a digwyddiadau byd-eang dinistriol. Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio adnoddau sylweddol er mwyn helpu pobl Syria, sy’n cael eu heffeithio gan argyfyngau dyngarol aruthrol. Mae’r gwrthdrawiadau treisgar wedi gorfodi dros wyth
miliwn o bobl Syria o’u cartrefi, a bellach mae bron i 1.5 miliwn ohonyn nhw’n ffoaduriaid mewn gwledydd cyfagos”.

Fel gweddill y Deyrnas Unedig, mae Oxfam wedi teimlo’r wasgfa ariannol yn sgil yr hinsawdd economaidd galed sydd ohoni, gan fod y cymorth ariannol wedi gostwng yn sylweddol. Mae rhoddion i siopau a faint mae pobl yn ei brynu yn isel, ac mae incwm codi arian hefyd wedi disgyn.

Ychwanegodd Julian Rosser: “Ar ôl nifer o flynyddoedd o bwysau ar incymau cartrefi, nid yw pobl yn prynu cymaint o ddillad newydd ac eitemau eraill erbyn hyn, ac mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar nifer y rhoddion a’u hansawdd yn ein siopau. Gobeithiwn yn fawr bydd economi’r Deyrnas Unedig yn gwella – yn enwedig er mwyn helpu’r bobl hynny sy’n cael trafferth yn ariannol. Rydym hefyd angen i bobl roddi unrhyw ddilledyn dieisiau, llyfrau, a nwyddau’r cartref i Oxfam – mae pob eitem yn helpu.”

Mae hyn wedi digwydd yn ystod blwyddyn o angen byd-eang enfawr, felly mae galw am adnoddau Oxfam wedi cynyddu. Rhoddodd ddigwyddiadau’r byd y llynedd bwysau neb ei debyg ar Oxfam, gydag argyfyngau mewn 23 o wledydd, yn cynnwys Syria, Yemen a Gorllewin Affrica. Dyma pam mae Oxfam yn apelio am ragor o haelioni gan y cyhoedd at ein hymatebion brys yn Syria. Mae gwrthdrawiadau treisgar wedi gorfodi dros wyth miliwn o bobl Syria o’u cartrefi, a bellach mae tua 1.5 miliwn ohonyn nhw’n ffoaduriaid mewn gwledydd cyfagos. Fodd bynnag, dim ond 27 y cant
o’r arian a sicrhawyd o’r £35m yr amcangyfrif a wariwyd gan Oxfam yn Syria hyd yn hyn.

Gweithredwch yn awr:

Rhowch i Syria

Dewch yn rhoddwr rheolaidd

Ewch i’ch siop agosaf – rhoddion eu hangen yn daer

Diolch

Gallwn eich sicrhau fod Oxfam yn gwneud y gorau o bob ceiniog rydych yn ei rhoi. Am bob £1 a roddir i Oxfam, mae 84c yn mynd yn uniongyrchol at ein gwaith mewn argyfwng, gwaith datblygu, ac ymgyrchu. Dim ond 9c sy’n mynd at y costau cynnal ac mae 7c yn cael ei roi at godi arian.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith Oxfam wedi helpu:

  • 4,300,000 o bobl i gael mynediad at ddŵr glân
  • 2,600,000 o bobl wedi elwa yn sgil y cyfleusterau glanweithdra gwell, gan leihau lledaeniad afiechydon yn fawr 
  • 2,000,000 o bobl yn elwa yn sgil dosbarthu bwyd, arian parod neu dalebau, mae hyn yn eu galluogi i fyw drwy’r argyfwng
  • 700,000 o bobl yn gwella cyflwr eu cnydau a’u gwasanaethau, sy’n rhoi hwb i fywoliaethau
  • 330,000 o bobl yn elwa yn sgil ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
  • 1,700,000 o ferched yn ymwybodol o’u hawliau, ac yn gallu sefyll dros yr hawliau hynny
  • 430,000 o ferched a dynion i weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd    

I lwytho i lawr Adroddiad Blynyddol Oxfam 2012/13 ewch i www.oxfam.org.uk/accounts