Llunio ein Dyfodol – yn gynaliadwy

Bil i Gymru gyfan lle bydd pawb ar ei ennill –  mae Oxfam Cymru, pobl amlwg ym meysydd yr amgylchedd, busnes a chyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy gref ddaw a swyddi gwyrdd, diet iachach a chefnogaeth i gymunedau Cymraeg

Mae Oxfam Cymru yngŷd â dros 20 o sefydliadau a pobl flaenllaw, gan gynnwys yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose a’r ymgyrchydd amgylcheddol Jonathon Porritt, wedi cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.

Mae Oxfam Cymru yn aelod o gynghrair o fwy nag 20 o sefydliadau  sydd wedi cyhoeddi ei chynnig amgen ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy pwysig Llywodraeth Cymru.

Dywed y grŵp y bydd y gyfraith newydd yn penderfynu sut y bydd Cymru’n datblygu dros ddegawdau i ddod. Yn ei ddogfen, Llunio ein Dyfodol, mae’n galw am i’r ddeddfwriaeth gynnwys dyletswydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau datblygu cynaliadwy – gan ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw.

Mae hefyd yn nodi diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy ac yn cynnig y byddai Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy dros Gymru’n hyrwyddo a hwyluso datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag ymdrin â chwynion ynglŷn â’r ffordd mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyhoeddwyd y ddogfen yn dilyn pryder gan aelodau’r gyngrhair fod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfraith hyd yma wedi bod yn rhy wan i wireddu’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion. Mae’r sefydliadau’n gobeithio, gyda gweinidog newydd, Jeff Cuthbert, yn arwain y gwaith o ddatblygu’r gyfraith, y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi eu cynllun amgen.

Meddai Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy’n gyfle gwych i Gymru osod esiampl i’r byd trwy sicrhau bod y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw. Mae’n galonogol gweld amrywiaeth mor fawr o sefydliadau’n cefnogi’r gyfraith amgen rydyn ni wedi’i chyhoeddi heddiw.”

“Rydyn ni’n cyflwyno cynllun ar gyfer cyfraith gref a fyddai’n sicrhau buddion gwirioneddol i bobl ac i’r blaned. Drwy osod dyletswydd glir ar awdurdodau cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy, byddai gweinidogion yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar gyfer y tymor hir, fel creu swyddi mewn ffyrdd sy’n brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gwneud penderfyniadau cynllunio sy’n cefnogi cymunedau Cymraeg, a sicrhau bod bwyd lleol, iach ar gael i bawb.”

“Allwn ni ddim fforddio rhoi baich canlyniadau penderfyniadau anghynaliadwy ar genedlaethau’r dyfodol. Os yw’r bil amgen hwn yn cael ei roi ar waith, bydd yn sicrhau ansawdd bywyd gwell i bobl yng Nghymru a’n bod ni’n chwarae ein rhan, fel dinasyddion byd-eang, i helpu i sicrhau bywyd boddhaol i bobl sy’n byw mewn tlodi o gwmpas y byd.”

Darllen mwy:

Llunio ein Dyfodol – Sut gall Cymru arwain y byd gyda deddf datblygu cynaliadwy (PDF)

https://www.walesonline.co.uk/special-features/welsh-government-public-sector-duty-5312773