Siwrnai Latoya

Fy enw i yw Latoya. Rydw i’n dod o Barbados. Rydw i’n 28 oed ac rydw i’n cymryd rhan ym mhrosiect Noddfa yng Nghymru ar ran Oxfam, lleolir yn Oasis, Caerdydd i ferched sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydw i’n fam sengl i ddau o blant, ac mae gan un ohonyn nhw anabledd. Mae fy nghais am loches wedi cael ei wrthod ac rydw i’n aros am fy apêl derfynol.

Pan ddes i Gaerdydd nid oedd gennyf deulu, ffrindiau na chefnogaeth gymunedol, ac nid oeddwn yn ymdopi’n dda o gwbl. Cefais iselder ac roeddwn yn byw mewn anobaith o un diwrnod i’r llall.

Yna, mi wnes i ddod ar draws Oasis. Mi wnes gwrs yn dysgu Saesneg a gyllidir gan Oxfam gyda Phrifysgol Abertawe. Yna, fe ofynnodd Helen Gubb i mi, sy’n weithiwr cymorth gyda Noddfa yng Nghymru, gynnal grŵp canu i ferched yn unig.         

Roeddwn i wrth fy modd gan fy mod i’n gantores/cyfansoddwr caneuon ac yn caru cerddoriaeth. Mi ddysgais ambell gân i’r merched, yn bennaf tonau crynion roeddwn i wedi’u dysgu mewn dosbarth canu o’r blaen.

Yna mi gymerais ran mewn gweithdy celf yn Oasis, ac yno mi luniais frodwaith o daith fy mywyd. Yn fuan ar ôl hynny, roeddwn wedi cofrestru ar gwrs Cerddoriaeth a’r Cyfryngau a oedd yn cael ei gynnal gan Coleg Caerdydd a’r Fro yn gysylltiedig â Ministry of Life. Yn rhinwedd y cwrs hwn mae’n rhaid i ni gynllunio, trefnu a pherfformio mewn gŵyl o’r enw Capital City Jam yng Ngerddi Sophia ar 3 Awst.

Hefyd cefais fy nerbyn ar gwrs profiad gwaith 20 diwrnod gyda Radio Caerdydd wedi’i drefnu gan Noddfa yng Nghymru, a Busnes yn y Gymuned. Wrth i’r wythnosau fynd heibio, mi wnes i fagu hyder, ac fe gynyddodd fy hunan-barch yn sylweddol. Mi ddysgais sawl peth, megis recordio a golygu fy sioeau radio fy hun, lefelau gwahanol o gerddoriaeth a synau llais, ciwio ac
amseru.                                    

Yna, mi wnes i droi fy llaw at sioeau radio byw. Cododd fy hunan-barch yn fawr yn sgil fy mhrofiad â Radio Caerdydd. Rydw i’n teimlo mod i’n symud ymlaen mewn bywyd. Gallwch ddarganfod rhagor am Capital City Jam yma.

Newyddion: Ers wedi ysgrifennu hynny, mae Latoya wedi cael caniatad i aros yn y DU am rhai flwyddyn.

Mae Noddfa yng Nghymru yn cael ei noddi gan Cronfa Loteri Mawr