Hwyl yn y Haf i Blant Glyncoch

Ysgrifennodd Rhian Anderson;

 Fe wnaeth pedwar ar bymtheg o deuluoedd o ardal Glyncoch fwynhau tridiau i ffwrdd mewn Gwersyll Antur Ziggies yn Pontins Brean Sands yng Ngwlad yr Haf.  Mae Ziggies yn gwahodd plant tair i wyth mlwydd oed a’u teuluoedd i ddod at ei gilydd i greu clwb hwyl yn seiliedig ar storïau, gweithgareddau creadigol a gemau. Fe wnaeth y teuluoedd fwynhau helfa drysor, crefftau a storïau yn ogystal â choginio gyda’i gilydd fin nos ar thema ‘Come Dine with Me’.

 Fe wnaeth y tywydd chwarae ei ran ac roedd yr haul yn tywynnu y rhan fwyaf o’r amser. Ar ein diwrnod olaf fe wnaeth y Gwersyll Antur brynu tocynnau i ni fynd i Animal Farm lle bu’r teuluoedd yn mwynhau’r man chwarae dan do tra’r oedd hi’n bwrw a bwydo’r anifeiliaid yn ystod y cyfnodau heulog.   

 Gyda’i gilydd, rhoddodd gyfle gwych i mi gwrdd â theuluoedd yn ardal Glyncoch a recriwtio nifer o rai newydd i gymryd rhan ym mhrosiect Oxfam Cymru.

 Mae Rhian yn weithiwr Bywoliaethau Oxfam Cymru sydd wedi’i lleoli gyda’n partneriaid, cwmni Adfywio Cymunedol Glyncoch.  Mae’r prosiect Bywoliaethau yn ardal Glyncoch, stad o dai ger Pontypridd, yn gweithio gyda rhieni plant mewn dwy ysgol leol i gefnogi magu plant mewn ffordd bositif ac annog teuluoedd i gael yr help maent ei angen i newid eu bywydau eu hunain.  www.glyncoch.org.uk

Cefnogir y prosiect Bywoliaethau gan Sefydliad Unilever a Chronfa Loteri Fawr Cymru.