Dywed Claudine Morgan, gweithiwr prosiect Bywoliaethau Oxfam yng Nghyswllt Cymuned Dyffryn yng Nghasnewydd:
Gyda naw teulu a phum gwirfoddolwr – 18 o oedolion a 28 o blant, aethom ar y bws i Fae Trecco, Porthcawl am y dydd, y cyntaf o chwe thaith a drefnwyd i bobl leol fedru cwrdd â’i gilydd a chael hwyl. Roedd y tymheredd yn chwilboeth, yn 27 gradd ac roedd pawb wedi cyffroi – yn enwedig y rhai na fu erioed ar draeth o’r blaen.
Wedi i ni gyrraedd, rhedodd y plant ar eu hunion i’r môr – golygfa fendigedig. Roedd yr holl sgrechian, sblasio a chwerthin yn anhygoel. Rhedodd y plant i mewn ac allan o’r tonnau drwy’r dydd, chwarae gêm grŵp o griced tywod, hel crancod ac adeiladu cestyll tywod.
Daeth pob teulu â phicnic gyda nhw ac eisteddodd pawb gyda’i gilydd yn yr heulwen yn mwynhau cwmni ei gilydd a chymharu straeon o’r stad.
Roedd pawb wedi blino’n lân ond yn hapus wrth i ni gamu ar y bws a dychwelyd i Gasnewydd. Cysgodd y plant a mwynhaodd yr oedolion ganu a arweiniwyd gan yr unigolyn mwyaf byddarol, gwyllt a digrifaf yng Nghyswllt Cymuned Dyffryn – Mr Doug Turner!
Mae prosiectau Adeiladu Bywoliaethau a Chymunedau Cynaliadwy Oxfam yn rhan o Raglen Atal Tlodi’r Deyrnas Unedig yr elusen ac yn cael eu cefnogi gan Gronfa Loteri Fawr Cymru.