Megis dechrau y mae’r argyfwng i ffoaduriaid sydd yn gadael Syria.
Yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Oxfam ac ABAAD – Canolfan Adnoddau dros Gydraddoldeb Rhyw yng nghanol Beirut, merched sy’n dioddef waethaf yn sgil yr argyfwng gyda nifer yn cyfaddef mewn cyfweliadau ei bod hi’n anodd eithriadol i ymdopi o ddydd i ddydd.
Cyfaddefodd nifer uchel o ferched eu bod nhw’n llwgu er mwyn bwydo eu teuluoedd. Gyda 90 y cant yn esbonio nad oedd digon o fwyd i’w rannu rhwng y teulu ac felly mynd heb bryd o fwyd oedd ateb y ferch.
Trafodir hefyd y gwahanol bwysau sy’n wynebu dynion a merched gan ganolbwyntio ar achosion y ffoaduriaid sydd bellach yn Libanus.
Yn ôl yr
adroddiad mae merched yn wynebu cynnydd mewn achosion o drais domestig gyda’u gwyr yn methu dygymod â’r sefyllfa ac yna’n ymosod ar eu gwragedd. Mae nifer fawr o’r dynion ymysg y ffoaduriaid yn cyfaddef eu bod nhw’n teimlo pwysau aruthrol gan nad ydyn nhw nawr yn gallu gwireddu eu rôl draddodiadol fel penteulu.
Gydag ychydig iawn o swyddi ar gael mae teuluoedd bellach yn ddibynol ar gymorth dyngarol, tocynnau bwyd a chefnogaeth ariannol tuag at eu rhent ac mae’r dynion yn teimlo’n fethiant.
Roedd nifer o deuluoedd wedi gobeithio y byddai ffoi i wlad gyfagos allan o’r perygl gartref yn ddechrau bywyd gwell a diogel, ond mae nhw nawr yn wynebu dyfodol ansicr a phryderon ynglyn ag iechyd a diogelwch personol.
Cyfaddefodd nifer o weddwon a menywod di-briod eu bod nhw’n byw o dan gwmwl o beryglon megis ymosodiadau, herwgipio, a lladrad. Dyw merched ddim yn teimlo’n hyderus ynglyn â’u diogelwch personol sy’n cyfyngu ar eu bywydau.
Dywed yr adroddiad er mwyn galluogi ymateb dyngarol effeithiol y dylid cydnabod bod rhywedd yn berthnasol ymhob rhan o’r trefniadau ac ar draws pob adran.