Cerddoriaeth Oxfam a fi

Mae’r Actor a’r DJ Gareth Potter wrth ei fodd, mae’n rhan o OXJAM yn Gaerdydd eleni am y tro cyntaf.

“Dydw i ddim wedi gallu cymeryd rhan cyn hyn felly mae bod yn rhan o hyn eleni yn gret. Mae’n rwbeth da i neud a dwi’n falch i gael bod yn rhan ohono.”

 “Rydw i wedi bod yn prynu recordiau vinyl yn Oxfam ers blynydde, rythm and blues a vinyls cynnar o’r 1950’au ar 1960’au. Dwi wrth fy modd yn chwarae’r stwff yma, fi dwi’n credu ydi’r DJ hynaf yng Nghaerdydd!

 Mae cerddoriaeth yn bwysig i Gareth Potter, fel DJ mae’n teithio ar draws Prydain yn perfformio ei ddetholiadau cerddorol i gynulleidfaoedd mawr.

 ” Dw i’n dueddol o brynu cerddoriaeth sydd o leiaf hanner canrif oed! Mae gen i wendid am gerddoriaeth 1963 yn benodol ac unrhyw beth cyn hynny. Dwi’n hoffi’r sŵn a’r nofelti sy’n perthyn iddyn nhw. Dwi yn hoffi cerddoriaeth mwy modern ond mae yna rwbeth arbennig am hen recordiau. Mae yna rwbeth bach yn fwy ‘raunchy’ amdanyn nhw.

Mae’n golygu mwy hefyd  imi achos dwi’n sylweddoli mai cerddoriaeth cenhedlaeth mamgu ydi e ac mae ‘na lot o codes a geiriau cudd yn y gerddoriaeth.”

Mae Gareth yn cyfaddef un peth arall hefyd.

“Mae gen i wendid am gerddoriaeth Cliff Richard!

Dwi’n cyfaddef mod i wedi prynu sawl record ganddo fo o Oxfam! Dwi’n hoffi ‘vintage’ a cymysgu hynny wedyn gyda’r modern. Mae’n fflat i fel hyn hefyd, yn cymysgedd o’r ddau gyfnod.

Mae yna bwynt yn dod ble ti’n peidio dilyn y ffasiwn a ti’n dechrau adnabod a dilyn dy steil dy hun. Dyna ble rydw i nawr ac mae’n digwydd hefyd yn y gerddoriaeth dw i’n gwrando arni. Rwy’n gwerthfawrogi’r hen bethau ond yn cymysgu’r cyfan gyda’r newydd.”