Wrth wylio Amina Abdi ar waith yn ei hystafell dosbarth yng Nghanolfan Gap Casnewydd, byddech yn tybio ei bod yn dysgu ers blynyddoedd. Mae ganddi ddigonedd o hyder wrth iddi roi prawf ar allu Saesneg merched o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd yn y grŵp. Mae’r gallu i siarad yr iaith yn hanfodol – mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i bawb rhwng arwahanu a chynnwys.
Ond nid dysgu oedd gyrfa ddewisol Amina gan nad oedd hi erioed wedi gwneud y fath beth cyn llynedd. Dilynodd gwrs am bum wythnos a oedd yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â phrosiect Noddfa Oxfam Cymru.
“Wnes i erioed ddychmygu fod gen i’r gallu i fod yn athrawes. Pan glywais am y cwrs, mi feddyliais i ddechrau ‘na, dwi ddim yn meddwl!’, ond mi wnes i ef, a chefais fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y cwrs tt reit ddwys, gyda gwersi yn y bore a dysgu ymarferol yn y prynhawn.”
Bellach mae Amina yn dysgu bob bore dydd Iau, ac y mae hi o’r farn fod ei rôl yn ei chadw hi i fynd er gwaethaf ei sefyllfa galed. Mae Amina, sy’n 37 mlwydd oed, wedi bod yn geisiwr lloches ers iddi adael rhwyg y rhyfel yn Somalia yn 2008. Fel sawl un arall, mae hi wedi cael ei dal rhwng dau le yn sgil anallu’r Swyddfa Gartref i wneud penderfyniad – oes modd iddi aros a gwneud bywyd iddi hi ei hun yma, neu oes rhaid iddi fynd yn ôl a’i mentro hi? Yn y cyfamser, mae hi wedi cael ei gwahardd rhag gwneud gwaith
cyflogedig ac mae’n rhaid iddi hi a’i merch Naema, sy’n dair blwydd oed, grafu byw ar lwfans cynhaliaeth fach ac ni chânt ddewis lle maen nhw’n byw ychwaith.
Eglura, “mae helpu’r merched hyn yn fy ngwneud i’n hapus ac yn rhoi rhywfaint o drefn i’m bywyd”, ac ychwanegodd fod ei disgyblion yn gweld ei Saesneg acennog yn haws i’w ddeall na’r siaradwyr brodorol – rhywbeth i’w wneud â sŵn y llafariaid efallai!
Partneriaid Oxfam Cymru yng Nghasnewydd yw Alltudion ar Waith ac Eglwys Bethel. Maen nhw’n darparu sesiynau galw heibio, gwersi Saesneg, a meithrinfa i ferched sy’n ffoaduriaid neu sy’n ceisio lloches yn y ddinas, wrth gynorthwyo pobl i oresgyn y problemau niferus maen nhw’n eu hwynebu fel dinasyddion newydd a’r rhai hynny sydd bron â chael statws dinasyddion.
Mae’r prosiect Noddfa yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr.