BLAS CAS Y PETHAU MELYS

Dywedwch wrth Coke, Pepsi ac Associated British Foods am sicrhau nad yw eu siwgr yn arwain at fachu tir. Dyma fy mhrofiad i gyda cymuned yn Brazil.

Mae pennaeth y pentref, Ezequiel Joâo Kaiowá yn fy arwain i’r goedwig ac i weld tir ei gyndeidiau a elwir yn Panambi-Lagoa Rica, sydd yn wladwriaeth Mato Grosso do Sul yn ne orllewin Brazil. Ystyr enw’r ardal hon yw Coedwig drwchus y De, ond heddiw does dim llawer o goedwig ar ôl sydd yn gyflafan i Indiaid brodol Brazil sydd wedi byw bywyd traddodiadol yn agos at y tir ers canrifoedd.

Mae Ezequiel, y Pennaeth, yn pwyntio at y ddaear, gan ddangos pren wedi llosgi a darnnau bach wedi eu taflu ymhob man. Dyma ble roedd cartref y teulu meddai wrthyf ac wrth afael mewn darn o fetel mae’n parhau i esbonio fod darnnau o eiddo y teulu yn dal ar y llawr, “roedd hwn yn ddarn o’r teledu”,meddai.

Mae Ezequiel a’r gymuned gyfan wedi bod yn brwydro dros eu hawliau cyfreithiol yn ogystal a’u hawliau dros y tir. Mae’n broses hir sydd wedi achosi gwrthdaro gyda phobol bwreus yn y byd busnes a’r byd gwleidyddol.

Mae cyfansoddiad Brazil yn cydnabod hawliau traddodiadol y gymuned frodorol i’w tir ond yn ymarferol mae’r hawliau hyn wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr.

“Mae’r cyfansoddiad ar ein hochor ni,” meddai arweinydd brodorol arall wrthai ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. “Mae gyda ni ein hawliau ond dyw’r gyfraith ddim yn eu parchu.”

Mae’r twf yn y diwydiant siwgr yn rhan fawr o’r broblem ac mae siwgr yn fusnes mawr yn Brazil. Yn Mato Grosso do Sul mae’r tir sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu siwgr wedi treblu rhwng 2007 a 2012. Mae nifer o’r melinau mawr yn cyflenwi siwgr ar gyfer cwmniau mawr rhyngwladol bwyd a diod.

Yn anffodus mae’r broblem sy’n wynebu yr arweinydd Ezequiel a’i gymuned yn gyffredin i nifer. Heddiw mae Oxfam yn lansio adroddiad newydd, ‘Does dim yn felys amdano’, sydd yn amlinellu sut mae cynhyrchu siwgr gyda chnwd masnachol tebyg i Soy ac olew palmwydd yn arwain at achosion o fachu tir yn y gwledydd datblygiedig.

Mae Oxfam yn galw ar gynhyrchwyr a phrynwyr mwyaf siwgr y byd – Coca Cola, PepsiCo ac Associated British Food – i ymateb nawr er mwyn sicrhau nad yw bachu tir yn digwydd o fewn eu cadwyni cyflenwi.

Yn ardal Ponta Porã , Mato Grosso do Sul, mae bron i 9,000 hectar o dir wedi ei enwi’n dir ar gyfer y brodorion o’r enw  Jatayvary ond dyw hyn ddim wedi atal ffermwyr rhag gwagio’r goedwig a thyfu siwgr cansen.Dyw hyn ddim wedi atal melin wynt gyfagos sydd yn berchen i Bunge rhag prynu siwgr sydd wedi ei dyfu yma chwaith.

Mae Coca-Cola wedi archebu siwgr gan Bunge yn Brazil ond yn ôl y cwmni mawr Cola mae nhw’n dweud i’r gwrthwyneb.

Mae’r achos hwn yn dangos nad yw’r cwmni felly’n gwneud digon i sicrhau fod ei gadwyn cyflenwi yn ymateb yn ddigon cryf

Yn ystod y cynhaeaf, mae loriau yn gweithio ddydd a nos ac yn achosi llygredd a damweiniau ffyrdd. Mae’r plaladdwyr sydd yn cael eu gollwng o’r awyr ar y tir wedi arwain at salwch o fewn y gymuned o ddolur rhydd i gyflyrau croen. Mae’r effaith seicolegol yn fwy o ganlyniad i golli tir sydd wedi bod yn eu meddiant ers sawl cenhedlaeth ac mae nifer wedi cymeryd eu bywydau.

Meddai Edilza Duarte, “O’r blaen roedd coedwig ac roedden ni’n gallu mynd i hela ond mae popeth wedi ei glirio. Does dim byd yma nawr  i’w fwyta, does dim pysgod – mae nhw wedi chwistrellu gwenwyn ar bopeth. Oherwydd fod y cwmniau yma mor enfawr allwn ni ddim gwneud dim yn eu herbyn nhw. Ond mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn, mae nhw wedi gwneud gymaint o niwed i ni.”

Cartwn gan Huw Aaron