(Bechgyn yn chwarae ar y traeth yn Barra de Sirinhaém, Pernambuco)
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Brazil yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd gan Oxfam.
Mae’r achos o dan archwiliad yn ymwneud â chymuned bysgota gyfan gafodd ei lluchio yn ddi seremoni oddi ar eu tir er mwyn paratoi y tir hwnnw ar gyfer Melin siwgr Usina Trapiche sydd ar ynys Sirinhaém yn nhiriogaeth Pernambuco, yn Brazil. Mae’r felin siwgr yma yn cyflenwi siwgr i gwmniau Coca-Cola a PepsiCo.
Yn adroddiad diweddaraf Oxfam Nothing Sweet About It mae’r elusen yn galw ar gwmniau bwyd a diod megis Coca-Cola, PepsiCo ac Associated British Foods i dynhau eu cadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau nad yw y cynhwysion mae nhw yn eu defnyddio yn gysylltiedig ag achosion o fachu tir.
Cyhoeddodd Erlynydd y Wladwriaeth Silvia Regina yr wythnos diwethaf y bydd y Weinyddiaeth Ffederal Gyhoeddus yn dechrau ymchwiliad swyddogol i mewn i’r gohiriadau sydd wedi tarfu ar y broses o sefydlu Gwarchodfa Estynnol (RESEX) ers 2009. Mae’r gohiriadau hyn wedi atal y gymuned frodorol rhag pysgota,tyfu bwyd a gwneud bywoliaeth i’w hunain a’u hatal rhag bwydo eu teuluoedd.
(Usina Trapiche, Sirinhaém, Pernambuco)
Dywedodd Gabrielle Watson, Rheolwraig Ymgyrch Oxfam Tu ôl i’r Brand: “Mae’r gymuned fechan yma wedi gorfod aros yn llawer rhy hir, mae angen gweithred fawr nawr all roi caniatâd i’r gymuned fynd yn ôl i’w tir.
Mae’r gymuned wedi brwydro am flynyddoedd ond mae Trapiche yn ogystal a’r awdurdod lleol wedi atal unrhyw ddatblygiad o blaid y bobl. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad yma yn helpu adfer hawliau’r gymuned o’r diwedd.”
Mae 30 o bysgotwyr a sefydliadau cymdeithasol wedi bod ynghlwm yn yr achos hwn gan gynnwys Y Comisiwn Tir Bugeiliol, Cyngor Bugeiliol y Pysgotwyr yn ogystal â’r Sefydliad Riffiau Arfordirol. Roedd y sefydliadau hyn i gyd yn frwd o blaid gwarchod hawliau y gymuned draddodiadol oedd yn byw ar y tir ers 1914.
Dywedodd un pysgotwr: “Tra bod y wladwriaeth yn parhau i ohirio mae’r felin siwgr a datblygiadau eraill yn dinistrio’r tir traddodiadol i filoedd o deuluoedd oedd yn byw ac yn defnyddio’r tir er mwyn eu cynhaliaeth.”
Mae’r Erlynydd yn gobeithio y bydd diweddglo hapus ir achos hwn yn Brazil ond os na ddaw ateb yn sgil yr ymchwiliad y cam nesaf fydd camau cyfreithiol.
Ers i Oxfam gyhoeddi’r adroddiad ynglŷn â’r ymgyrch Tu ôl y Brand mae 175,000 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb sydd yn galw ar gwmniau mawr bwyd a diod Coca-Cola, PepsiCo ac Associated British Foods i asesu eu cadwyni cyflenwi ac i sicrhau nad oes bachu tir yn digwydd.
Dyw Oxfam ddim eisiau gweld achosion fel Pernambuco yn unman yn y byd.
Lluniau gan Tatiana Cardeal