Yr wythnos hon mae’r gantores ar actores dalentog Connie Fisher yn ail gylchu ei dillad gyda Oxfam Cymru.
“Rwy’n credu fod ailgylchu dillad i Oxfam ei gwerthu mlaen yn beth gwych. Dyliai dillad da gadw ei gwerth os ydyn nhw yn cael ei glanhau ac yn cael gofal. Dwi’n credu bod yna gylchoedd mewn ffashiwn, gall rhywbeth sydd allan o ffasiwn un funud fod yn ffasiynol fory. Rydw i wedi prynu sawl peth o siopau Oxfam dros y blynyddoedd er mwyn arbed arian ond hefyd er mwyn dod a bywyd newydd i ddilledyn sydd wedi cael ei anghofio.
Lansiodd Oxfam a Marks and Spencer ymgyrch ‘Shwopping’ yn Ebrill 2012 er mwyn ei gwneud hi’n haws ar bobl i gael gwared ar ddillad nad oedden nhw ei angen bellach. Yr wythnos yma mae Diwrnod Glanhau eich Cwpwrdd Dillad yn gyfle ichi gael tyrchu a threfnu eich cypyrddau dillad chi gan fynd â’r dillad i mewn i unrhyw siop M&S ar draws y wlad neu ddod a nhw i mewn i siopau dillad Oxfam.
Mae Connie Fisher wrth ei bodd gyda dillad, mae wedi body n bwysig iddi hi ar hyd ei bywyd ar lwyfan ac oddi arno.
“Rwy’n gorfod meddwl am y dillad rydw i yn ei wisgo yn ofalus iawn. Os wyt ti’n gwisgo rhywbeth anaddas fe alle ti gael dy ddal mas gan y tywydd neu edrych yn od ar gamera. Dwi’n chwilio am ddillad sydd yn bwrpasol ac yn ddiddorol boed yn deledu neu gyngerdd. Dros y saith mlynedd diwethaf rwy wedi cael sawl profiad gwahanol ers ennill rhan Maris ar gyfer BBC Un, mae nghwpwrdd dillad i yn adlewyrchu hyn!”
Daeth Connie Fisher i amlygrwydd ehangach wedi iddi ennill rhaglen gerddoriaeth ‘How Do You Solve a Problem Like Maria?‘ yn 2006 ar gyfer BBC Un ond nid y dillad yr oedd hi’n ei wisgo ar y llwyfan oedd o bwys iddi hi.
” Gan fy mod i ar lwyfan bob nos yn gwisgo dillad lleian fe ddes i wedyn i feddwl mwy am yr hyn oni’n ei wisgo oddi ar y llwyfan gan mae dyna pwy oedd y Connie go iawn. Roeddwn i wedi dechrau mwynhau gwisgo fyny llawer mwy a bod ychydig yn fwy glamyrys.
Rydw i yn ceisio cadw fy nghwpwrdd dillad yn weddol daclus ac yn drefnus ond mae’n rhaid ifi gyfaddef bod hi’n anodd weithiau i gael gwared ar ambell i ddilledyn gan fod pob un darn yn dweud stori sy’n bersonol imi.”
Fe lwyddodd digwyddiad Shwopping dwethaf Oxfam gasglu 435,000 darnnau o ddillad allai fod gyfystyr â £504,600.
Trwy roi dillad ar gyfer yr achos yma fe allwch chi fod yn cynorthwyo rhywun i weddnewid ei cwpwrdd dillad nhw ond fe allwch chi hefyd fod yn cyfrannu at godi bywydau pobl allan o dlodi yng Nghymru ac ar draws y byd.
Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiad ddydd iau ewch i https://www.oxfam.org.uk/donate/donate-goods/mands-and-oxfam-shwopping
Mae Connie wedi rhoi ffrog werdd hardd i Oxfam Cymru iw werthu yn ein siop yng Nghaerdydd.
Llun gan Glenn Edwards