O’r Ardd i’r Plât

Cawl o’r ardd ar ddiwrnod Bwyd y Byd.

Dechreuodd y Cynllun o’r Ardd i’r Plât yn mis Ebrill eleni ac mae nhw bellach yn ei 25ain wythnos o fywyd. Ar ddiwrnod Bwyd y Byd yr wythnos yma mae Linc Cymuned Dyffryn yng Nghasnewydd wedi paratoi cawl cartref ar gyfer eu gweithwyr au gwirfoddolwyr. 

Mae’r cynllun yma O’r Ardd i’r Plât wedi ei ariannu gan Oxfam Cymru a mudiad y Co-operative ac fe ddechreuwyd er mwyn datblygu darn o dir ar safle Tŷ Tredegar mewn partneriaeth gyda Linc Cymuned Duffryn yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol a Growing Space.

Mae’r cywaith yn gweithio’n bennaf gyda theuluoedd sydd yn ymwneud gyda Cynllun Bywoliaeth Cynaliadwy Oxfam yn Duffryn gan wneud y cysylltiad rhwng plannu a thyfu bwydydd iach, rysetiau a pharatoi bwyd. Prif fwriad y cynllun ydi cynyddu y nifer o bobl leol sydd yn rhan o’r Co-Operative Bwyd yn Duffryn ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl am dyfu bwydydd eu hunain a’r cyswllt rhwng plannu a’r plât.

Mae Jane Lewis yn gyd gysylltydd Dysgu gyda Linc Cymuned Duffryn,
“Mae tyfu bwyd a dysgu amdano yn ddigwyddiad mor gymdeithasol, fe allwch chi gael paned o goffi a sgwrsio gyda phobl tra’n plannu. Rydyn ni hefyd yn dysgu pobl beth i’w wneud gyda’r bwydydd hyn ar ôl eu tyfu nhw. Mae’n fendigedig i fod yn rhan o’r holl broses hyn ac i rannu hyn i gyd gyda pobl eraill.”

Mae Linc Cynuned Duffryn yn ganolog i ddatblygiad y gymdeithas ac mae nhw wedi bod yn weithgar o fewn y gymdeithas ers dros 10 mlynedd. Mae nhw wedi tyfu o fod yn fudiad o dan arweiniad y gymuned ac ambell wirfoddolwr i fod yn elusen sydd yn rhedeg gwasanaeth cymdeithasol yn gofalu am blant ac mae’n gweithio gyda gwahanol fudiadau i gynnig gwasanaeth fydd o fantais i’r gymuned leol. 

Ers dechrau’r cynllun yn mis Ebrill mae’r cywaith wedi blodeuo ac mae’r darn o dir yn Nhŷ Tredegar wedi tyfu sawl ffrwyth a llysieuyn. Mae’r cywaith wedi cadw dyddiadur gweledol o’r hyn sydd yn digwydd yno bob wythnos. 

“Mae hi wastad yn brysur yma gyda’r rhandir, rydyn ni’n plannu neu’n codi cnwd neu’n chwynu neu’n plannu planhigion mewn potiau. Rydyn ni’n trio gwahanol ryseitiau ac yn cynhyrchu cnydau neu yn trafod beth sydd i’w blannu nesaf. Ar hyn o bryd rydyn ni’n casglu cnwd o ffa dringo a phwmpen ac mae gyda ni gasgliad da iawn o berlysiau hefyd.
Mae yna wastad rywbeth i’w ddysgu yma ac mae’n nod ni yn syml, rydyn ni am ysbrydoli’r gymuned leol i fwynhau plannu, tyfu ac i fwyta bwydydd iach yn ogystal â chyfarfod ffrindiau a rhannu ein gwybodaeth â’n profiad.

Llun y plant gan Glenn Edwards

Y plant yw Kelis Gwyther and Tyrone Probert