Mae Cyswllt Cymuned y Dyffryn, partner Oxfam Cymru yng Nghasnewydd, wedi cael ei ddewis ar restr fer Cronfa Gymunedol Lloyds 2013
Mae’r Gronfa yn darparu grantiau er mwyn rhoi cymorth i achosion da lleol ledled Cymru a Lloegr, ac mae gan y cyhoedd tan 1 Tachwedd i bleidleisio dros yr elusennau sydd ar y rhestr fer.
Gall unrhyw un bleidleisio yn unrhyw gangen Lloyds, naill ai ar-lein: www.communityfund.lloydsbank.com neu drwy anfon VOTE KMPC mewn neges destun i 61119.
Mae Cyswllt Cymuned y Dyffryn wedi bod wrth galon y gymuned yn ward Parc Tredegar am dros 10 mlynedd, ac mae wedi tyfu’n sefydliad sy’n rhedeg mentrau cymdeithasol ac sy’n rhoi cymorth i bobl mewn sawl ffordd. Maen nhw’n gobeithio bydd y Gronfa yn rhoi £3,000 er mwyn iddyn nhw ddal gafael ar y staff.
Mae prosiect Bywoliaethau Oxfam Cymru yn y Dyffryn yn gweithio gyda theuluoedd difreintiedig sy’n byw ar y stad drwy helpu pobl i reoli eu bywydau a goresgyn argyfyngau.
Dywed Chris Johnes, cyfarwyddwr Prosiect Tlodi’r Deyrnas Unedig, Oxfam: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith y mae Cyswllt Cymuned y Dyffryn yn ei wneud. Maen nhw wedi newid bywydau ac wedi achub bywydau. Rwy’n eich annog yn gryf i gymryd eiliad er mwyn rhoi’r bleidlais gwbl haeddiannol honno iddyn nhw.”
Mae’r Prosiect Bywoliaethau yn cael cymorth gan Gronfa Loteri Fawr Cymru.
Yn y llun: Cynaeafu cennin fel rhan o gywaith ‘O’r Ardd i’r Blat’ gyda Duffryn.