Daeth disgyblion o Fargoed, Risca a Chaerdydd ynghyd yr wythnos yma i drafod newid hinsawdd.
Mae FILM NATION UK ac Oxfam Cymru wedi trefnu diwrnod o ddysgu yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar gyfer disgyblion rhwng 12 – 15 oed yr wythnos yma. Mae’r digwyddiad yn rhan o Wyl Film Cenedlaethol Ieuenctid newydd sydd yn ymdrechu i roi cyfle i bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig i weld a thrafod filmiau ac i gyfarfod pobl sydd yn gweithio o fewn y diwydiant.
Mae’r ffilm Americanaidd o 2012 Beasts of the Southern Wild wedi ei chynhyrchu gan Behn Zeitlin. Aeth y disgyblion ati wedyn i drafod y materion pwysig am newid hinsawdd mewn gweithdy o dan arweiniad Vicky Leech a Laura Karadog, Cynghorwyr Addysg ac Ieuenctid gydag Oxfam Cymru.
“Rydyn ni eisiau i’r disgyblion ddeall beth yw ystyr newid hinsawdd ac i wneud y pwnc yn ddealladwy iddyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio fod y disgyblion yn gweld sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar fywydau pobl. Mae newid hinsawdd yn realiti ac mae’n mynd i gael mwy o effaith ar fywydau’r disgyblion hyn a’u cenhedlaeth nhw.
(Lluniau gan Glenn Edwards.Vicky Leech yn trafod gyda’r plant)
Yn ein hadroddiad diweddaraf am Newid Hinsawdd a diogelu bywyd (Growing Disruption) mae’n datgan yn glir bod tymheredd uwch eisoes yn effeithio ar fywydau’r bobl tlawd mewn cymdeithas ar draws y byd. Mae tymheredd uchel yn lleihau’r cyfnodau tyfu ac yn dinistrio cnydau gan ei gwneud hi’n anoddach i weithio y tu allan am gyfnodau hir o amser. Mae’r cyfan yn gosod pwysau ychwanegol ar adnoddau dŵr ac yn aml yn cynyddu prisiau bwyd
sydd ar werth mewn marchnadoedd cyfagos.
Mae’n rhaid lleihau allyriadau 40% yn is na lefelau 1990 a 2020 mewn gwledydd datblygiedig a pharhau i ostwng wedi hyn er mwyn atal sgil effeithiau enfawr newid hinsawdd.
Y disgyblion hyn yw’r dyfodol ac rydym am iddyn nhw ddeall pwysigrwydd newid hinsawdd ac i wybod beth allwn ni ei wneud fel unigolion ac fel cymuned i ymateb iddo.”