Banciau bwyd yn sgandal cenedlaethol.

Mae sancsiynau budd-dal annheg yn gorfodi teuluoedd Cymru i droi at fanciau bwyd, medd Oxfam Cymru.Yn ymateb i’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd ar Ddiwrnod Bwyd y Byd gan Ymddiriedolaeth Trussell, dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Mae’r banciau bwyd yn gwneud gwaith anhygoel a hanfodol i’r bobl hynny sy’n byw mewn argyfwng yng Nghymru, ond mae’r nifer sy’n troi atyn nhw erbyn hyn yn achosi sgandal genedlaethol.

Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Trussell fod defnydd pobl o’r banciau bwyd yng Nghymru wedi treblu bron iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’r newidiadau mewn budd-daliadau megis treth ystafell wely yn rhoi pwysau annioddefol ar gyllidebau teuluoedd. Mae pobl sy’n gweithio yn troi at fanciau bwyd am nad ydynt yn cael digon o arian i roi bara menyn ar y bwrdd. Ond y pla diweddaraf yw’r nifer y bobl sy’n cael eu sancsiynu gan y Ganolfan Waith am resymau dibwys.”

Yn y cyfamser, mae tystiolaeth yn dangos bod ‘diwylliant sancsiynau’ yn cynyddu yn y gwasanaeth budd-daliadau. Yn ôl Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), mae perygl i’w haelodau wynebu camau disgyblu os nad ydynt yn sancsiynu’r ‘lefel priodol’ o hawlwyr.

Ychwanegodd Mr Rosser: “Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ystyried ei pholisïau sancsiynau ar frys, a gofynnwn i Lywodraeth Cymru sicrhau fod tlodi bwyd yn cael y flaenoriaeth pan maen nhw’n llunio strategaethau gwrthdlodi.”

Coflen Sancsiynau

Mae Oxfam Cymru wedi cydymffurfio â’r goflen hon yn ôl y wybodaeth a roddwyd i ni gan ein partneriaid â’n cysylltiadau. Mewn sawl achos, roedd y sancsiynau a osodwyd yn anghyfreithlon ac yn ddiweddarach gwrth-drowyd y sancsiynau ar ôl apêl, ond erbyn hynny roedd llawer o boen a gofid wedi cael ei achosi eisoes.

Collodd merch ifanc feichiog o‘r Rhondda, sy’n gysylltiedig â phrosiectau’r elusen, wythnos o fudd-daliadau am nad oedd wedi rhannu ei cheisiadau am swyddi yn gyfartal dros bythefnos.

Cafodd dynes o Sir Ddinbych ei bygwth â sancsiynau am ei bod yn dymuno mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol am ychydig o ddiwrnodau.