Taith Hawliau Dynol yn dod i Gaerdydd

Mae Oxfam Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Prydeinig dros Hawliau Dynol (BIHR) er mwyn dod â’r Daith Hawliau Dynol 2013 i Gaerdydd. Mae’r digwyddiad hwn am ddim, a chaiff ei gynnal yn Neuadd y Cyngor Sir, Glanfa Iwerydd ar 15 Hydref.

Mae’r digwyddiad yn gofyn pam mae angen hawliau dynol (gan gynnwys cyflwyniad i gyfraith hawliau dynol a chymhwyso hawliau dynol yn ymarferol yn eich gwaith), a pham mae hawliau dynol eich angen chi (yn cynnwys y dadleuon gwleidyddol diweddaraf ynghylch hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig).

 Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle ar y diwrnod, ewch i

www.bihr.org.uk/events/the-human-rights-tour-2013-4