Bil Cau Ceg yn Bygwth Rhyddid Barn

(Julian Rosser Pennaeth Oxfam Cymru)

Mae grwpiau gwirfoddol yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi stop ar y Bil Lobïo dadleuol ar frys, gan eu bod yn ei ystyried yn fygythiad i ryddid barn yr wythnos yma.

Dywedodd Graham Benfield OBE, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC): “Mae elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru yn pryderu’n fawr am effaith y bil hwn”.

Ychwanegodd, ‘Gallai lesteirio trafodaeth gyhoeddus cyn etholiadau’r Deyrnas Unedig a’r Cynulliad, ac mae’r bygythiad mor ddifrifol mae yna ymchwydd o wrthwynebiad iddo’.

Dywedodd Julian Rosser, Oxfam Cymru:

“Carem rwystro’r Bil rhag dod yn ddeddf er mwyn gadael digon o amser i archwilio ei effeithiau tebygol wrth i’r etholiad agosáu.”

Daw’r pryderon yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos yma gan y Comisiwn ar Cymdeithas Sifil ac Ymgysylltu Democrataidd yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan sefydliadau allweddol mewn sesiynau a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys un sesiwn yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr adroddiad, bydd y Bil yn gwneud i elusennau feddwl ddwywaith cyn ymgyrchu wrth ddynesu at etholiadau am eu bod ofn torri’r gyfraith. Byddai’n cynyddu’n ddramatig y mathau o weithgareddau y bydd yn rhaid i sefydliadau roi cyfrif amdanynt. Bydd elusennau sy’n gweithio mewn partneriaeth ag elusennau eraill yn gyfrifol yn unigol am wariant ar y cyd, gan arwain at bryderon am ‘wariant dwbl’.    

Mae amrywiaeth eang o elusennau ac ymgyrchwyr o blaid atal y Bil hwn, yn cynnwys y Gynghrair Cefn Gwlad, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Oxfam Cymru, Shelter Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, CGGC, Cymorth Cristnogol Cymru a Phlant yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, os bydd y Bil yn mynd rhagddo, dylai’r Tŷ’r Arglwyddi ei ddiwygio er mwyn sicrhau nad oes modd i ymgyrchu gwleidyddol amhleidiol ddigwydd wrth ddynesu at etholiadau. Mae’n ychwanegu nad yw daearyddiaeth Cymru a’r angen i gysylltu â phleidleiswyr Cymru yn y ddwy iaith wedi eu cynnwys yn y cynlluniau.  

Erthygl berthnasol:https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/free-speech-wales-threatened-lobbying-6252692