Storïau ar-lein

Mae’r merched a gymerodd ran ym mhrosiect Mynediad at Waith Oxfam Cymru wedi recordio eu storïau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 Mae storïau digidol Saima (Yn y llun) a Darina (gyda sain a lluniau) ar gael yn awr ar sianel You Tube Oxfam:

https://www.youtube.com/watch?v=S0GVMDNhD5k&feature=youtu.be



https://www.youtube.com/watch?v=2pOOBlafoUE&feature=youtu.be

Helpodd Mynediad at Waith (a elwir bellach yn Mynediad at Waith a Mentergarwch) famau sengl i wella eu cyfleodd cyflogaeth drwy ddarparu profiad gwaith, cyrsiau a sesiynau hyfforddi un i un. Yn awr, mae gan Darina swydd mae hi’n ei mwynhau, ac mae Saima yn gobeithio dechrau ei busnes ffasiwn ei hun.

Caiff Mynediad at Waith a Mentergarwch ei redeg mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned, a’i gyllido gan Sefydliad Unilever.