FILM AM OSGOI TALU TRETHI

Mis yma mae Oxfam Cymru, Cymorth Cristnogol ac Action Aid yn dod ynghyd i ddangos film ddogfen newydd, ‘The UK Gold’ yng Nghanolfan Gelfyddydol Chapter yng Nghaerdydd.

Mae’r ficer o Lundain Y Parchedig William Taylor yn mynd ati i archwilio yr arferiad o osgoi talu trethi, mae’r film yn ei ddilyn ef yn sefyll i fyny i rai o fudiadau ariannol mawr Dinas Llundain.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o effaith mae osgoi talu trethi yn ei gael ar gymorth ac ar y byd datblygiedig,”meddai y Parchedig Taylor.

“Mae gwledydd yn Africa yn ymdrechu’n galed oherwydd bod y Ddinas yn rhoi cymorth i gwmniau i roi arian mewn cronfeydd sydd yn hafan treth ac yn rhoi cymorth iddyn nhw atal talu’r trethi sydd yn ddyledus.”

 Fe gawsom ni addewidion ynghlyn a thryloywder gan Hafannau treth y DU fel rhan o Ymgyrch Os ac nawr mae angen i ni wneud yn siwr fod yr addewidion hyn yn cael ei cadw. Rydyn ni yn dangos y film yma er mwyn rhoi pwysau ar diriogaethau tramor y DU er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cadw ei haddewid i arwyddo confensiwn amlochrog ar faterion treth ar ddiwedd mis Tachwedd.

 Gwyliwch y film gyda ni Dydd Sadwrn Tachwedd 16eg gan ymuno yn y drafodaeth gyda siaradwyr ac ymgyrchwyr y tri mudiad sydd yn cymryd rhan.

Llun gan David Parry