Galw am weithredu cyn trafodaethau heddwch Syria.
Mewn adroddiad newydd gan Oxfam mae’r mudiad yn galw ar bwerau y byd i ddod ynghyd i sicrhau diwedd ar dywallt gwaed yn Syria ac i alluogi cymorth brys yn syth.
Yn sgil ymosodiad erchyll arfau cemegol ar Damascus yn ôl yn mis Awst 2013 fe fwriadodd yr Unol Daleithiau ymateb yn filwrol yno. Ond yn y pen draw mi ysgogwyd trafodaeth ac arweiniad rhyngwladol ar fater Syria.
Gyda thrafodaethau heddwch ar y gorwel yn Geneva yn mis Tachwedd, mae’r ysbryd newydd hwn yn awgrymu bod newid cadarnhaol ar y gweill ac mae Oxfam yn galw am ddiwedd i’r tywallt gwaed ac i alluogi cymorth yno ar frys. Mae’r adroddiad yn galw ar y gymuned ryngwladol i gymeryd camau tuag at heddwch cynaliadwy yn Syria.
Llun gan Abdullah al -Yassin