Mae hi’n ddiwedd wythnos brysur yma yn Oxfam Cymru, mi gefais i’r cyfle i fynd i Bicester ddydd Iau i weld 17 tunnell o gymorth dyngarol yn gadael warws fawr ac yn dechrau ar ei daith i Faes Awyr y Midlands ac yna mlaen am Ynys Cebu yn y Philipinau fel rhan o Apêl DEC Argyfwng ynysoedd y Philipinau.
Roedd gweld y cyfan yn cael ei lwytho i mewn i’r loriau yn brofiad rhyfedd o emosiynol, i gael gwybod beth oedd pwrpas yr holl offer wedi ei bacio’n dynn mewn seloffen. Pentwr o fwcedi gwyn mewn tyrrau bach taclus wedi eu cynllunio’n ofalus, mae nhw’n hawdd i’w golchi, does dim tyllau na gwagleodd ble y gall budreddi guddio. Mae top y bwced yn cau yn dynn i wneud yn siwr nad oes modd i’r dŵr heintio’n rhwydd, ac mae gwaelod y bwced yn llyfn ac mae hyn o bwys. Mae’r diweddariad yma yn ddyfais cyffrous i ni, mi ddeallodd y gweithwyr dyngarol yn ddigon
buan nad oedd y bwcedi gwreiddiol yn gyfforddus ar bennau y cannoedd o ferched a dynion a phlant oedd yn cludo dŵr o’r ffynnon i’w catrefi bob dydd mewn gwledydd ar draws y byd ble rydyn ni’n gweithio.
Mae yna gannoedd o ganiau dŵr bach melyn llachar a ‘lle gafael’ ar eu topiau nhw ar fin cyrraedd y Philipinau yn ystod y dyddiau nesaf.
Dwylo merched a dynion a phlant fydd yn gafael yn rhain cyn bo hir ac mi fyddan nhw’n rhan bwysig o’u bywydau bob dydd. Mae modd rhoi dŵr budur i mewn yn rhain a gyda thechnoleg syml filter bach ym mol y gasgen, mae modd pwmpio dŵr glan allan, mae’n rhyfeddod syml sy’n achub bywyd.
Does dim un darn bach neu fawr nad oes meddwl y tu cefn iddo yma yn y warws. Mae Oxfam wedi wynebu sawl argyfwng yn ei flynyddoedd o waith, mae yna bobl ddyfeisgar ac ysbrydoledig yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr offer o gymorth ac y bydd yn cyrraedd pobl mewn angen mawr.
Tapiau dŵr, wyddo chi sawl addasiad sydd wedi bod a pham? Mae angen tapiau cryf nad ydy’n nhw’n gwastraffu dŵr.Tap sydd yn cau yn awtomatig rhag ofn y bydd plant ychydig yn esgeulus ac yn gwastraffu dŵr, ac mae anifeiliaid clyfar yn broblem hefyd, rhai sydd yn deall technoleg syml o wthio bachyn i gael dŵr.
Dŵr a deunyddiau glanweithdra oedd y rhan helaeth o’r 17 tunnell o ddarpariaeth cymorth oedd yn llenwi’r loriau yr wythnos yma, ond mae gweld a deall y gwaith a’r meddwl y tu cefn i’r cyfan wedi dangos imi faint o ymdrech a gofal sydd wrth gefn ymdrechion elusennau dyngarol.