PepsiCo dwedwch NA i fachu tir.

Mae’r fideo isod yn dangos ffermwyr yn cerdded ar hyd strydoedd Caerdydd i weld os y gall rhywun eu helpu nhw ddod o hyd i rywle i fyw a chael gwaith. Roedd rhai aelodau o’r cyhoedd wedi rhyfeddu bod modd i rywun gael ei orfodi oddi ar ei dir ei hunan a’i orfodi i chwilio am gartref newydd.

Yn ddiweddar, yn sgil pwysau gan Oxfam a 215,000 o lofnodion gan bobl ar draws y byd,mae Coca-Cola wedi cytuno i beidio â dioddef bachu tir o fewn eu cadwyni cyflenwi. Beth am y cwmniau bwyd a diod mawr eraill felly. Os yw Coca-Cola yn fodlon ymrwymo i beidio â dioddef bachu tir, beth am PepsiCo? 
Dyma felly oedd ein cwestiwn ni pan benderfynon ni wneud fideo yn herio Pepsi i ddilyn esiampl Coca-Cola. Mae nhw’n dweud nad ydyn nhw’n ymwneud o gwbwl â bachu tir, ond tydyn nhw ddim yn gwneud digon i sicrhau fod hyn yn wir ymhlith eu cyflenwyr. 

Mae hyn yn dangos imi gymaint yw’r gwahaniaeth, mae pobl Cymru yn gyfforddus yn y gred na all eu tir na’u bywoliaeth gael ei fachu oddi arnyn nhw, ond mewn sawl gwlad ar draws y byd mae’r sefyllfa yma yn gyffredin ac yn realiti. 

Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gyda Oxfam ers rhai misoedd bellach ac roeddwn i yn gyffrous tu hwnt am gael bod yn rhan o’r cywaith hwn. Y cyfle i wneud rhywbeth creadigol, ac i ddod ag actorion a gwneuthurwyr film at ei gilydd i wneud rhywbeth cadarnhaol. Mae’n brawf y gallwch chi lwyddo i wneud pethau mawr gydag ychydig iawn o adnoddau. Mewn un diwrnod rydyn ni wedi llwyddo i greu rhywbeth sydd o gymorth i ddangos perthnasedd y pwnc yma i’n bywydau, gan alw ar y cyhoedd i ymateb ac i weithredu yn hytrach nac anobeithio.

Blog gan Emrys Barnes