Daw Hugh dela Cruz o ddinas Tacloban ar Ynys Leyte yn y Philipinau. Tacloban yw un o’r dinasoedd sydd wedi dioddef waethaf yn sgil teiffŵn Haiyan.
Mi symudodd Hugh gyda ffrwd o bobl ifanc o Ynysoedd y Philipinau i Gymru ddeuddeg mlynedd yn ôl,yn ffodus o gael ei ddewis allan o 800 o ymgeiswyr am waith nyrsio yma yng Nghymru. Derbyniodd hyfforddiant i fod yn nyrs allan yn y Philipinau fel rhan o adran ymateb brys i argyfyngau.
Mi welodd Hugh sawl sefyllfa anodd, delio gyda damweiniau awyrennau, argyfyngau ar y môr a thirlithriadau. Ond gan nad oedd e’n delio gyda’i deulu a phobl yr oedd e yn eu hadnabod roedd e’n gallu canolbwyntio ar wneud yr hyn yr oedd e wedi ei hyfforddi i wneud a’i weithredu’n effeithiol.
Er yr holl brofiad does dim wedi paratoi Hugh am yr hyn sydd wedi digwydd i’w gartref ac i ddinas ei fagwraeth.
“Rwy wedi siarad gyda fy nheulu unwaith, mae dad a fy llysfam allan yna a fy nheulu agos. Mae nhw gyda’i gilydd ac mae hynny yn gysur, ond mae’r sefyllfa yna yn anodd arnyn nhw. Mae dad yn 73 oed ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Does dim to ganddyn nhw ar eu cartref, mae hwnnw wedi ei rwygo oddi ar y tŷ gan y teiffŵn. Mae nhw’n gorfod chwilio am adeilad bob nos i gysgu ynddo, mae hi’n wlyb felly mae nhw’n gorfod ffeindio lloches i gadw’n sych ac yn gynnes.”
Mae Hugh yn dad i bedwar o blant ac yn byw yn ardal Pentwyn o Gaerdydd. Daeth ei wraig o Tacloban ddwy flynedd ar ôl Hugh ac mae hi hefyd yn nyrs sydd bellach yn gweithio mewn cartref gofal yma yng Nghaerdydd.
” Allai ddim cysgu mae gen i gymaint o feddyliau yn fy mhen wrth boeni amdanyn nhw.” Meddai Hugh. “Mae’n anoddach gan fy mod i wedi fy hyfforddi i ddelio ac ymateb mewn sefyllfa fel hyn, dwi’n gallu dychmygu’r gwaith sydd yn cael ei wneud ond rwy’n methu gwneud dim byd, er mod i eisiau rhannu fy sgiliau a rhannu gyda nhw i gyd allan yna.”
Esboniodd Hugh am y drefn o dagio mewn argyfwng;
” Flyndde nôl roedd doctoriaid yn gosod tag ar bobl, lliw oedd hwn oedd yn dangos ym mha gategori roedd pawb. Tag coch i’r rhai oedd angen triniaeth frys, melyn i’r rhai nad oedd mewn cymaint o alw, gwyrdd ar gyfer y rhai oedd wedi eu hanafu ond a allai gerdded, a du oedd y lliw pan oedd rhywun wedi marw.”
Er bod y system wedi ei haddasu erbyn heddiw, mae natur y drefn yn debyg yn ôl Hugh ond y tro hwn mae’n gwybod bod y drefn yma yn digwydd i bobl y mae e yn eu hadnabod, aelodau o’i gymuned ef.