Lansio’r Siarter Cyflog Byw

Yn ystod yr wythnos, lansiwyd Siarter Cyflog Byw yn y Cynulliad Cenedlaethol, gyda’r nod o roi hwb i gyllidebau aelwydydd ac economi Cymru.

Y Siarter yw’r ymgyrch ddiweddaraf gan y corff gwarchod Cuts Watch Cymru  (CWC), sef rhwydwaith o sefydliadau rheng flaen yng Nghymru sy’n monitro  ac yn ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â thlodi.

“Y cyflog byw yw’r gyfradd isafswm fesul awr sydd ei hangen ar gyfer safon ddigonol o dai, bwyd ac anghenion cyffredinol eraill,” meddai’r Aelod Cynulliad Mike Hedges yn y lansiad. Y cyflog byw newydd a argymhellir yw £7.65 y tu allan i Lundain. Dim ond £6.31 yw’r isafswm cyflog cenedlaethol i rai dros 20 oed, ac mae’r gyfradd mor isel â £3.72 i rai sy’n 16/17 oed.

Mae’n rhaid i Gymry sydd ar y gyfradd isafswm cyflog hawlio budd-daliadau i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae 23% o bawb sy’n cael cyflog yng Nghymru yn cael llai na’r cyflog byw – 250,000 o bobl. Mae talu cyflog byw yn rhoi eu hurddas yn ôl i bobl ac yn rhoi hwb i siopau a busnesau lleol, gan fod pobl yn gwario mwy. Mae dros 400 o gyflogwyr yn y Deyrnas Unedig eisoes wedi ymrwymo i dalu cyflog byw, gan gynnwys 14 yn unig yng Nghymru hyd yma.

Dywedodd Julian Rosser o Oxfam Cymru: “Rydym eisiau i gynghorau a’r sector cyhoeddus fel cyfanwaith ystyried costau a manteision bod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig a chyhoeddi’r canlyniadau.”

Ychwanegodd Jonathan Cox o Citizens Cymru: “Gallai Cymru fod yn genedl Cyflog Byw pe bai Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cyflog byw i’r sector preifat drwy ei bolisïau caffael.

“Mae Cyflog Byw yn gwneud synnwyr busnes cadarn o ran recriwtio a chadw staff, ac yn gynyddol mae’n dod yn arwydd o arferion da. Pan fydd cyflogwyr yn ymuno â’r cynllun, mae lefelau absenoldeb yn gostwng a safon gwaith yn codi,” meddai Maria Mallon, Rheolwr Adnoddau Dynol yn Chwarae Teg, sydd wedi dod yn gyflogwr Cyflog Byw.

 Yn y llun (chwith i’r dde) :Kay Polley (TCC), Mike Hedges AM. Margaret Thomas (Unison), Christine O’Byrne (Chwarae Teg), Julian Rosser (Oxfam Cymru) and Samater Nour (Living Wage Ambassador)