Eleni fel pob blwyddyn mae Oxfam yn cynnig sawl anrheg Nadolig ar eich cyfer. Mae Archie yr afr yn un o’r gwerthwyr gorau ar ein gwefan. Mae yna ieir, defaid a modd i gyfrannu at fferm gyfan o anifeiliaid os hoffech chi.
Ond yr hyn sydd yn arbennig am yr anrhegion yma yw y gwahaniaeth gwirioneddol mae nhw’n eu cael ar fywydau pobl, Mae rhain yn rhoddion sydd yn cyfoethogi bywyd.
Wrth edrych ar y wefan ac ar y cynigion Nadoligaidd sydd gyda ni, mae yna sawl peth y gallwch chi eu harchebu fydd i gyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau y rhai sydd yn derbyn eich rhodd.
Bydd teulu yn cael llaeth, tir yn cael gwrtaith a’r cyfan yn ddiolch i un afr fach.
Mae modd prynu rhandir i rywun sydd yn rhoi sicrwydd o fwyd a chynhaliaeth gydol y flwyddyn. Beth am hyfforddiant i gadw gwenyn neu hadau i’w hau. Mae’r anrhegion yma i gyd yn fodd o hybu unigolion i fagu hyder ac i ddod yn hunan gynhaliol o fewn eu cymunedau.
Mae Oxfam yn gweithio mewn dros naw deg o wledydd ac wedi dysgu o brofiad am y pethau bach sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, ac mae’r afr yn un o rheini.
“Mae’r afr fechan yma mor bwysig i ni, roedd e mor hyfryd i dderbyn anrheg Nadolig fel hyn pan ddaeth yr afr,”meddai Selina o Rwanda.
Os ydach chi am wneud rhywbeth arbennig eleni, prynwch afr neu anrheg all newid bywyd er gwell.