Archesgob yn galw am gydsafiad â phobl sy’n wynebu tlodi

Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi galw ar Gristnogion ac eraill ledled Cymru i ‘sefyll dros yr hyn sy’n iawn’ pan fydd pobl sy’n byw mewn tlodi yn cael eu cyhuddo o fod yn segur a diog, a chynnig cymorth ymarferol.

“Rydym i gyd yn aelodau o un gymuned,” meddai. “Rhaid i ni godi llais yn erbyn y sibrydion, y cam-gynrychiolaeth a’r rhagfarn sy’n tanseilio ein cydsafiad.”

Roedd yr Archesgob yn siarad yn lansiad ‘Y Gwir a’r Gau ynghylch Tlodi heddiw, (dydd Mawrth 10 Rhagfyr) yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, sef adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Oxfam Cymru a’r Eglwys yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd bryder am bobl dlawd a phryder am wirionedd straeon, ac yn ein hatgoffa nad cynnig cymorth ymarferol yn unig yw ein dyletswydd fel Cristnogion ac fel aelodau o gymdeithas, ond sefyll dros yr hyn sy’n iawn hefyd. Dim ond pan fydd gennym ddealltwriaeth o ddifrif o realiti tlodi y gallwn hyd yn oed ddechrau mynd i’r afael ag ef ac adeiladu cymdeithas fwy cyfiawn a llwyddiannus i bawb.”

Cynhaliwyd ac arweiniwyd y lansiad gan Vaughan Gething AC, y dirprwy weinidog trechu tlodi.

Mae’r Gwir a’r Gau ynghylch Tlodi yn chwalu chwe myth cyffredin am bobl sy’n byw mewn tlodi drwy roi ffeithiau a ffigurau, gan gynnwys eu bod ‘nhw’ yn ddiog ac nad ydyn nhw’n awyddus i weithio, a’u bod ‘nhw’ yn twyllo’r system. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn wreiddiol gan gynghrair o eglwysi o’r enw Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd. Mae’r ddogfen newydd wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf, ac mae crynodeb dwyieithog ar gael. Mae modd llwytho i lawr yr adroddiad llawn o wefannau Oxfam Cymru a’r Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru,: “Petaech yn dibynnu ar weinidogion y Llywodraeth a rhai papurau tabloid am wybodaeth, byddech yn meddwl mai’r cyfan sydd ei angen yw i bobl dorchi eu llewys a gweithio’n galed, ac na fyddai’r fath beth â thlodi wedyn.

“Y gwir amdani yw nad oes digon o swyddi ar gael, bod budd-daliadau dan warchae yn sgil sancsiynu, a hyd yn oed os oes gan rywun waith, nid oes unrhyw amddiffyniad yn erbyn tlodi gan fod cyflogau yn llusgo y tu ôl i chwyddiant, ac mae contractau heb oriau penodol a chontractau tymor byr ar gynnydd,”

Galwodd ar bobl i ddod at ei gilydd dan faner Cuts Watch Cymru ac Oxfam Cymru a’i bartneriaid i herio llechfeddiannu ar y wladwriaeth les, a galw am gymdeithas fwy cyfartal.

Gallwch chi darllen yr addroddiad yma.