Mae arlunwyr sy’n ymddiddori mewn byd natur o brosiect partner Oxfam Cymru wedi dod yn fuddugol mewn cystadleuaeth genedlaethol i lunio cerdyn Nadolig gyda dyluniad Nadoligaidd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o ffrwythau a llysiau.
Lluniodd gwirfoddolwyr y prosiect ‘O’r Planhigion i’r Plât’ yng Nghasnewydd ludwaith tymhorol gan ddefnyddio madarch botwm fel dyn eira a ffa dringo fel coeden Nadolig, gan gyflwyno ffotograff ohono fel eu hymgais yng nghystadleuaeth llunio cerdyn i’r Uned Adfywio Gwledig (RRU).
Wedi’i gyllido gan Oxfam Cymru a’r Grŵp Cydweithfa, fe ddechreuodd ‘O’r Planhigion i’r Plât’ er mwyn datblygu safle rhandir newydd ger Tŷ Tredegar mewn partneriaeth â Chyswllt Cymunedol y Dyffryn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Growing Space.
Mae’r teuluoedd sy’n gweithio gydag Oxfam Cymru ar eu prosiect Bywoliaethau Cynaliadwy yn y Dyffryn wedi gweithio’n galed ar y rhandir hwn ers iddyn nhw ddechrau ar y gwaith fis Ebrill, a fis yn ôl mi wnaethon nhw fwynhau tamaid o ffrwyth eu llafur wrth goginio a bwyta eu cynnyrch eu hunain ar Ddiwrnod Bwyd y Byd.
Sarah Bishop o’r Dyffryn oedd y tu ôl i ddyluniad y cerdyn. Dywedodd: “Bûm yn meddwl am bob math o ffrwythau a llysiau a fyddai’n gallu gwneud llun addas.
“Mi enillom fasged yn llawn nwyddau o Gymru, a bydd y cerdyn yn cael ei argraffu a’i anfon at gannoedd o gydweithfeydd ledled Cymru.”
Mae llawer o’r cynnyrch sydd wedi’i ddefnyddio yn y llun wedi dod naill ai o’r rhandir ei hun neu o gydweithfeydd lleol. Mae’r ‘deunydd crai’ yn cynnwys ffa gwyrdd, ffa llydan, madarch, pupurau, tomatos, nionod, gellyg y ddaear, tsilis, cennin, ffrwythau kiwi, afalau a rhesins.
Dywedodd Jane Lewis, Swyddog Dysgu Cyswllt Cymunedol y Dyffryn: “Gan fod yr holl gynnyrch yno’n barod, aethom ati yn y fan a’r lle. Roedd e’n wych. Mi wnaethon nhw awgrymu syniadau penigamp.”
Helpodd Natalie Edwards o RRU i drefnu’r gystadleuaeth, a beirniadu ar yr un pryd. Dywedodd: “Mi aethon nhw i lawer o ymdrech, ac roedd eu cais nhw ben ac ysgwyddau uwch ben y lleill”.
“Bydd y ddelwedd yn cael ei defnyddio ar 400 o gardiau Nadolig. Mi fyddan nhw’n cael eu hanfon at bob cydweithfa yng Nghymru, a hefyd i sefydliadau a phartneriaid Llywodraeth Cymru, felly bydd llawer o bobl yn gweld y llun ar draws Cymru.”