Ymweliad brenhinol â’r prosiect rhandir

Er gwaetha’r glaw, roedd pawb mewn hwyliau da pan groesawodd gwirfoddolwyr Rhandir Cymunedol y Dyffryn Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl ar ei ymweliad swyddogol â Chasnewydd ddydd Gwener ddiwethaf.

Fe wnaeth y Tywysog gwrdd ag oedolion a phlant sydd wedi bod wrthi’n galed drwy’r flwyddyn er mwyn gwneud y rhandir yn llwyddiant – prosiect sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Cyswllt Cymunedol y Dyffryn (DCL), Oxfam, Growing Spaces, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan  y Gymdeithas Gydweithredol.

Mae llawer o’r un bobl yn rhan o brosiect Bywoliaethau Oxfam Cymru ar ystâd y Dyffryn sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyswllt Cymunedol y Dyffryn, gydag arian gan Gronfa Loteri Fawr Cymru. Mae’r prosiect yn gweithio gyda theuluoedd lleol a’u plant er mwyn hyrwyddo magu plant yn gadarnhaol a hunan ddibyniaeth.

Cyflwynodd disgyblion Ysgol Babanod y Dyffryn gardiau Nadolig wedi’u gwneud â llaw i’r Tywysog. Dywedodd Tyrone Probert, 6 oed, “Mi wnes i roi’r cerdyn iddo, ac fe ddiolchodd i mi. Roedd yna un i’r Tywysog ac un i’r baban George.”

Dywedodd Jane Lewis o Gyswllt Cymunedol y Dyffryn: “Mae pawb wedi bod yn edrych ymlaen yn arw. Mae’n hyfryd bod y plant wedi gallu cymryd rhan.”