Daeth criw o bobl o Gaerdydd at ei gilydd i wylio ffilm dreth ‘UK Gold’ gan geisio ateb y cwestiwn hwn.
Mae’r film yn ôl papur y Guardian yn ‘ymosodiad clir ac uchelgeisiol ar draddodiad gwael diwydiannau yn y DU sydd yn osgoi talu trethi. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar rôl ddi-chwaeth Dinas Llundain a’i sefydliadau”. Dechreuodd pawb feddwl am beth alle nhw ei wneud nesaf ..
- Matti Kohonen (sydd yn rhan o sefydliad Rhywdwaith Cyfiawnder Trethi) – awgrymodd hi y gellir lobïo llywodraeth leol er mwyn gofyn iddyn nhw beidio â defnyddio cwmniau sydd yn defnyddio hafannau treth.
- Louise Weinzweig (Cydlynydd Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Oxfam Cymru), roedd Louise eisiau sefydlu rhwydwaith anffurfiol o weithredwyr treth yng Nghaerdydd fyddai’n cyfarfod yn achlysurol, cysylltwch os oes diddordeb gyda chi.
- Arian Cymru, dywedon nhw wrthyn ni am eu digwyddiad nhw ar y 4ydd o Ragfyr sydd yn awgrymu Sefydliadau Ariannol eraill.
- Mari McNeill o Cymorth Cristnogol, mae gan Mari gopiau o’r ffilm fel bod modd i chi ddangos y ffilm yma yn eich cymunedau chi. Beth am ichi wneud yr un peth â ni, a gwahodd eich gwleidyddion lleol?