Ymgyrch Mamau Oxfam

Gwagiwch eich cypyrddau a rhoi i siopau Oxfam yn ystod y misoedd nesaf!

Am y tro cyntaf fe fydd Llywodraeth y DU yn  rhoi punt am bob punt fydd yn cael ei chodi yn y siopau rhwng mis Ionawr hyd mis Mawrth.

Dywed Claire Samuel Rheolwr Siop Boutique Caerdydd:  “Mis Ionawr yw’r amser perffaith i gael clirio ac i droi eitemau o safon yn arian y gall Oxfam ei ddefnyddio i ariannu y gwaith rydym ni yn ei wneud yn ymateb i dlodi ar draws y byd. Yn ogystal, diolch i’r llywodraeth mae’r arian sydd yn cael ei godi gan eich rhoddion hael chi yn cael ei ddyblu, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol. Peidiwch anghofio hefyd y gallwch chi roi eich dillad ail law i Marks and Spencer er mwyn iddyn nhw eu pasio nhw mlaen i ni.”

Mae’r ymgyrch yn rhan o Apêl Mamau Oxfam i godi arian ac i helpu merched a phrosiectau arbennig ar draws y byd er mwyn codi teuluoedd allan o dlodi am byth. Bydd yr ymgyrch yma yn rhedeg  hyd nes Mawrth y 30ain yn 2014, Diwrnod y Mamau. Mae’r ymgyrch yn hybu pobl i ddathlu mamau ar draws y byd ac i helpu ni i godi £10 miliwn ar gyfer Oxfam a’r gwaith rydym ni yn ei wneud i newid bywydau.

Bydd Apêl Mamau Oxfam yn helpu merched fel Tika, sydd yn dod o ardal anial yn Nepal. Merched sydd wedi cael eu clymu mewn traddodiad sydd yn golygu nad ydyn nhw yn aml yn gadael cartref y teulu. Mae trais yn y cartref yn gyffredin a dyw merched ddim yn ymwybodol o’u hawliau. Mae Oxfam wedi bod yn gweithio gyda chymunedau fel cymuned Tika i geisio dod â chyfartaledd unwaith eto trwy redeg dosbarthiadau i addysgu dynion a merched am faterion megis trais domestig a phroblemau alcohol. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi rhoi hwb i Tika i
frwydro dros ei hawliau, ennill arian ac i ysbrydoli ei merched. Dywedodd “Nawr rwy’n cerdded gyda hyder. Rydw i yn ddynes wahanol. Mae fy merched i yn hapus i fy ngweld i yn bod yn anibynnol ac yn gwneud penderfyniadau ar gyfer y teulu.”