Mae’n amser Unioni’r Glorian yng Nghymru

Wedi holl ddathlu’r Nadolig mae ein meddyliau yn troi ar y flwyddyn newydd ac addunedau. Boed hynny yn addunedu i ddysgu iaith newydd, bod yn bobydd gwell neu wylio llai o gyfresi, mae dechrau blwyddyn newydd wastad yn cynnau gobaith am fersiwn fwy disglair ohonom ni’n hunain. 

Wedi holl ddathlu’r Nadolig mae ein meddyliau yn troi ar y flwyddyn newydd ac addunedau. Boed hynny yn addunedu i ddysgu iaith newydd, bod yn bobydd gwell neu wylio llai o gyfresi, mae dechrau blwyddyn newydd wastad yn cynnau gobaith am fersiwn fwy disglair ohonom ni’n hunain.

Gydag Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar droed eleni, efallai y byddai’n syniad i ni lunio addunedau ar gyfer ein gwlad. Tybed beth fyddai’n creu Cymru fwy disglair?

Yn Unioni’r Glorian: Glaslun i Gymru, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, rydym yn nodi galwadau polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, galwadau polisi fyddai’n helpu i wneud Cymru yn genedl wych i’w phobl. Adduned Blwyddyn Newydd Oxfam Cymru yw sicrhau bod galwadau polisi ein Glaslun i Gymru yn cael eu gweithredu o fewn y pedair blynedd nesaf.

A does dim amser i gicio’n sodlau. Yma yng Nghymru, mae 16% o’r boblogaeth yn berchen ar yr un faint o gyfoeth a phawb arall gyda’i gilydd. Dyw cyfraddau cyflog isel heb newid mewn degawd ac mae 23% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi cymharol. Sut allwn i newid y broblem ystyfnig hon? Rydym ni’n creu y byddai creu swydd Dirprwy Weinidog o fewn yr Adran Gyllid Llywodraeth nesaf Cymru yn helpu i unioni’r glorian yng Nghymru. Byddai gan y Dirprwy Weinidog
newydd gyfrifoldeb llwyr dros fynd i’r afael ac anghydraddoldeb economaidd a thlodi, a chymryd camau penodol i wneud Cymru yn Genedl Cyflog Byw, a sicrhau bod gweithwyr yng Nghymru yn derbyn y tâl maen nhw’n ei haeddu.  

Merched yw 62% o weithwyr y DU sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw – sef £8.25 yr awr yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw. Rhaid i hyn newid. Mae merched angen mynediad at waith gweddus a chyflog teg: bydd hyn yn cyfoethogi Cymru.

Er mwyn bod yn Genedl wych rydym yn creu bod angen i Gymru hefyd fod yn ymwybodol o’i heffaith ar ei byd. Ar hyn o bryd mae Cymru wedi mynd y tu hwnt i’r cyfyngiadau diogel o ddefnydd o CO2 gan 410% – sut ddigwyddodd hyn? Mae angen i ni leihau ein hallyriadau a llunio strategaeth ynni glir fydd yn ein helpu i ddefnyddio egni glân, adnewyddadwy, gan adael tanwydd ffosil yn ei le cywir – y gorffennol.

Er mwyn chwarae ein rhan ar lwyfan y byd rhaid i ni groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches hefyd, pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi heb unrhyw ddewis. Mae mwy o ffoaduriaid yn y byd heddiw nac oedd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd; o Syria yn unig mae 4 miliwn yn ceisio lloches. Er mwyn adleoli ein Cyfran Deg, a chychwyn ein siwrne tuag at fod y Genedl Noddfa gyntaf, dylem groesawu o leiaf 724 o ffoaduriaid o Syria cyn diwedd
2016

Byddwn yn lansio ein hadroddiad, Unioni’r Glorian: Glaslun i Gymru heno, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn amlinellu sut gallai Llywodraeth nesaf Cymru unioni’r glorian a chreu dyfodol mwy disglair i ni gyd.

Felly dyma godi gwydr i 2016, i gael Llywodraeth Cymru i dyrchu eu llewys a mynd i’r afael â’r problemau hyn o ddifrif. Rydym yn bwriadu gwneud popeth fedrwn ni i weld hynny’n digwydd. A gallwch gymryd ein gair am hyn – dyma un addewid Blwyddyn Newydd rydym yn addo ei chadw.

Darllenwch ein Glaslun yma https://bitly.com/GlasluniGymru, a cymerwch gip olwg ar ein ffilm fer, sy’n esbonio prif alwadau’r Glaslun. Os oes gennych unrhyw adborth, byddem yn hoffi clywed gennych. Anfonwch e-bost at oxfamcymru@oxfam.org.uk.