Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Oxfam wedi darparu cymorth dyngarol i bron i naw miliwn o bobl – yr ymateb dyngarol mwyaf yn ein hanes. Mae’r naw miliwn o bobl – menywod, dynion a phlant – wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd trais neu drychineb.
Mae’n anodd credu, ond mae nifer y ffoaduriaid a’r bobl sydd yn ddi-gartref o fewn eu gwledydd eu hunain ar draws y byd bellach ar ei uchaf ers yr Ail Ryfel Byd. Mae’r gwrthdaro yn Syria wedi bod yn ffactor o bwys, ond mae pobl hefyd yn dianc rhag trais yn Ne Swdan, Nigeria, Bwrwndi, Irac a Yemen, ymhlith eraill.
Dyma pam ein bod ni’n lansio ymgyrch newydd, Sefyll Fel Un, yn galw ar bawb i sefyll gyda a chefnogi teuluoedd sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi. Rydym hefyd yn galw ar arweinwyr y byd i gytuno ar ymateb byd-eang i’r argyfwng ffoaduriaid, ymateb fydd yn helpu ac yn amddiffyn teuluoedd sy’n cael eu gorfodi i ffoi. Mae’n anodd i ni ddychmygu pa mor enbyd fyddai rhaid i sefyllfa fod i ni ystyried gadael ein cartref i wynebu dyfodol ansicr, ac yn anoddach
fyth dychmygu dyfodol heb eich teulu a’ch ffrindiau. Er na allwn ddychmygu hyn, gallwn ddangos i’n arweinwyr ein bod am iddynt weithio i wneud y profiad yn llai dirdynnol, gan gael gwared ar rai o’r rhwystrau a cynnig croeso cynnes.
Os ydych am weld Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan drwy newid y rheolau i gadw teuluoedd o ffoaduriaid gyda’i gilydd, yn newid y rheolau fel y gall pobl deithio’n ddiogel i hawlio lloches, gan groesawu mwy o bobl sydd wedi colli popeth i mewn i’r DU, ac yn gwneud mwy i helpu’r gwledydd sy’n rhoi lloches i’r mwyfrif o ffoaduriaid y byd, arwyddwch ein deiseb yma.
Yma yng Nghymru gallwn groesawu mwy o ffoaduriaid, rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y byd; teuluoedd sydd heb ddewis ond ffoi oherwydd bod eu cartrefi wedi’u dinistrio a’u bywydau yn deilchion. Yn ystod yr Hydref y llynedd gwnaeth pob Awdurdodau Lleol yng Nghymru addewid i groesawu ac ailgartrefu ffoaduriaid o Syria. Fodd bynnag, gwta wyth mis yn ddiweddarach dim ond pum sydd wedi gwneud hynny, gyda 78 o bobl wedi cyrraedd Cymru.
Os ydych chi am weld eich Awdurdod Lleol yn gwneud gwahaniaeth, ysgrifennwch at yr arweinydd a yn rhoi gwybod iddynt eich bod am weld eich cymuned yn cymryd camau i groesawu mwy o ffoaduriaid. Ysgrifennwch at eich Aelod Cynulliad lleol. Ysgrifennu at y Prif Weinidog.
Beth am ysgrifennu llythyr o groeso i deulu o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru, i roi gwybod iddynt eu bod yn ddiogel a bod croeso iddynt yma? Gallwch bostio un yn eich siop Oxfam leol neu e-bostio at oxfamcymru@oxfam.org.uk, neu ysgrifennu un ar y we yma.
Yn aml, pan rydym yn wynebu argyfyngau enfawr o’r fath, rydym yn teimlo’n ddiymadferth ac mae’n anodd gweld golau ar ddiwedd y twnel, ond ar y cyfan mae llawer y gallwn ei wneud i helpu. Yma yng Nghymru, gallwn wneud yn siŵr bod yr holl Awdurdodau Lleol yn cadw at eu gair, a gallwn sicrhau bod ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma yn teimlo’n ddiogel ac yn cael croeso. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru yn Genedl Noddfa. Gadewch i ni Sefyll Fel Un.