“Mae gennym ni fwy yn gyffredin nag sydd yn ein rhannu”. Jo Cox
Heddiw, ar y diwrnod y byddai Jo Cox wedi dathlu ei phen-blwydd yn 42, rydym ni fel Oxfam – sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gydweithio â Jo am nifer o flynyddoedd – yn falch o ymuno ag eraill yng Nghaerdydd i ddathlu bywyd Jo a’r holl achosion oedd yn agos at ei chalon.
Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni heddiw yn nigwyddiad Mwy yn Gyffredin: Gŵyl o weithredu yng Nghaerdydd i ddathlu bywyd Jo Cox MP, am 4.00pm yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Bydd y digwyddiad yn uno nifer o sefydliadau sy’n ymgyrchu ar achosion annwyl i Jo, i rannu gwybodaeth am sut y gallwn ni i gyd weithredu i ddangos bod gennym “fwy yn gyffredin nag sydd ein rhannu”.
Ar yr un pryd bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau ledled y byd, gan gynnwys Llundain, Aleppo, Brwsel, Efrog Newydd a Washington. Wrth i filoedd o bobl ddod ynghyd bydd syniadau a gwerthoedd Jo yn cael eu hatgyfnerthu a’u rhannu yn fyd-eang.
Roedd Jo Cox bob amser yn ymgyrchydd brwd dros y bobl fwyaf bregus yn y byd. Roedd ei haraith ar y ‘Ddiwygiad Dubs’ – yn galw ar Lywodraeth y DU i groesawu ffoaduriaid sy’n blant ac ar eu pen eu hunain – yn enghraifft arall o hyn. Meddai yn ystod ei haraith, “… Mae teuluoedd anobeithiol o Syria yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniad amhosibl: aros ac wynebu newyn, trais rhywiol, erledigaeth a marwolaeth, neu wneud taith beryglus i ddod o hyd lloches yn rhywle arall …”
Mae Oxfam yn credu bod angen i ni Sefyll fel un gyda ffoaduriaid ledled y byd. Os ydych chi’n credu y dylai llywodraethau ar draws y byd wneud mwy, yna llofnodwch ein deiseb cyn y ddwy uwchgynhadledd ar ffoaduriaid a fydd yn digwydd yn Efrog Newydd yr hydref hwn.
Yma yng Nghymru gallwn ni i gyd wneud mwy, hefyd. Mae pob un o’n hawdurdodau lleol wedi dweud y byddant yn croesawu ffoaduriaid o’r argyfwng presennol yn Syria. Ond, yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Gartref, dim ond pum awdurdod sydd wedi gwneud hynny cyn belled. Dim ond 78 o ffoaduriaid o Syria mae Cymru wedi eu hailgartrefu hyd yma, tra bod yr Alban wedi croesawu dros 600, a Swydd Efrog ychydig o dan 200 o bobl.
Mae Cymru yn genedl fach, ond yn genedl gref – gallwn ni chwarae mwy o ran i roi lloches i deuluoedd bregus. Gallwch chi helpu i wneud hyn ddigwydd gan ysgrifennu at arweinydd eich Awdurdod Lleol a dweud wrthynt eich bod am weld eich cymuned yn croesawu mwy o ffoaduriaid.
A gallwch hefyd ddarparu’r croeso cynnes Cymreig mae ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma yn ei haeddu a’i angen. Rydym yn gofyn i bobl ysgrifennu llythyr o groeso i ffoadur a’i bostio yn un o’n blychau post yn ein 23 o siopau Oxfam ar draws Cymru, neu gallwch anfon llythyr yn ddigidol. Byddwn wedyn yn gweithio gyda chynghorau i
ddosbarthu negeseuon i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru.
Gall eich nodyn bach wneud gwahaniaeth mawr – gan helpu i gefnogi’r rhai sydd mewn angen – y bobl hynny y treuliodd Jo Cox ei bywyd yn eu cefnogi ac yn ymgyrchu dros eu hawliau.