Mae’r Pwyllgor Argyfyngau (DEC) yn dwyn ynghyd 13 o elusennau cymorth mwyaf blaenllaw y DU — pob un ohonynt yn codi arian ar y cyd i gyrraedd y rhai mewn angen yn gyflym. Wrth gydweithio, gallwn godi’r arian sydd ei angen i achub bywydau ac ailadeiladu cymunedau.
Yng Nghymru, mae chwech o’r aelod-asiantaethau yn weithredol yn ystod apêl – Oxfam, Cymorth Cristnogol, Achub y Plant, CAFOD, Y Groes Goch Brydeinig a Tearfund.
Ar hyn o bryd mae DEC Cymru yn recriwtio Cymorth Cyfathrebu allanol i weithio gyda ni yn ystod ein hapêl nesaf.
Manylion llawn:
Pwyllgor Argyfyngau Cymru
Cymorth cyfathrebu – galwad am ddatganiadau o ddiddordeb
Cylch Gorchwyl
Amcanion
1. Cytuno ar ffyrdd o weithio a phrosesau cyfathrebu pe byddai apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau.
2. Paratoi templedi, adnoddau a hyfforddi llefarwyr cyn yr apêl nesaf.
3. Cynyddu’r sylw yn y cyfryngau yn ystod apêl nesaf y Pwyllgor Argyfyngau, trwy sicrhau cyfweliadau i’w darlledu a chyfweliadau ar brint a thrwy ddatganiadau i’r wasg.
Yn atebol i
- Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu, Oxfam Cymru
- Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Pwyllgor Argyfyngau Cymru
Hyd
- Un wythnos o waith paratoadol ym mis Hydref 2016
- Pythefnos o gymorth i swyddfa’r wasg yn ystod yr apêl nesaf.
Cefndir
Mae’r Pwyllgor Argyfyngau yn dwyn ynghyd 13 o elusennau cymorth mwyaf blaenllaw y DU[i] — pob un ohonynt yn codi arian ar y cyd i gyrraedd y rhai mewn angen yn gyflym.
Yng Nghymru, mae chwech o’r aelod-asiantaethau yn weithredol yn ystod apêl – Oxfam, Cymorth Cristnogol, Achub y Plant, CAFOD, Y Groes Goch Brydeinig a Tearfund.
Rydym yn ymateb i argyfyngau yng ngwledydd tlotaf y byd, gan ddefnyddio set o feini prawf i’n helpu i benderfynu pryd y byddwn yn lansio’r apêl a sut y gallwn fod fwyaf effeithiol:
- Mae’n rhaid i’r argyfwng fod ar gymaint o raddfa ac yn gymaint o argyfwng fel bod angen cymorth dyngarol rhyngwladol cyflym.
- Mae’n rhaid i aelod-asiantaethau’r Pwyllgor Argyfyngau, neu rai ohonynt, fod mewn sefyllfa i ddarparu cymorth dyngarol effeithiol a chyflym ar raddfa i gyfiawnhau apêl genedlaethol.
- Mae’n rhaid bod sail resymol dros ddod i’r casgliad y byddai apêl gyhoeddus yn llwyddiannus, naill ai oherwydd tystiolaeth o gydymdeimlad cyhoeddus i’r sefyllfa ddyngarol neu oherwydd bod achos cymhellol sy’n awgrymu’r tebygolrwydd o gymorth cyhoeddus sylweddol pe byddai apêl yn cael ei lansio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apeliadau’r Pwyllgor Argyfyngau yma.
Ar ôl i’r apêl gael ei lansio, mae aelodau’r Pwyllgor Apeliadau yng Ngogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban yn gweithio gyda swyddfa wasg y Pwyllgor Apeliadau yn Llundain, sydd wedi’i staffio gan aelodau’r Pwyllgor Argyfyngau a’i aelod-asiantaethau, i sicrhau cymaint o sylw â phosibl yn y cyfryngau. Mae’n gyfrifol am …
- Weithio gyda phartneriaid darlledu i gynhyrchu ffilmiau’r apêl
- Llunio datganiadau rheolaidd i’r wasg i sicrhau sylw
- Rhoi gwybod i’r cyhoedd am gyfansymiau apeliadau a’r bobl y mae’r cymorth wedi’u cyrraedd
- Cydgysylltu ceisiadau gan y cyfryngau i sicrhau bod cyfweliadau’n cael eu rhannu’n gytbwys rhwng yr aelodau
- Rheoli risg i enw da a sicrhau bod pawb yn rhannu’r un neges.
Yn ystod y pythefnos o gydweithredu, mae’n rhaid i’r aelod-asiantaethau ddenu sylw’r cyfryngau ar ran y Pwyllgor Apeliadau. Bydd rheolau’r Cyfnod o Gydweithredu’n cael eu darparu os bydd y datganiad o ddiddordeb yn llwyddiannus.
Y cymorth y mae ei angen
yng Nghymru, Oxfam ac Achub y Plant yw’r unig ddau aelod sydd â swyddi llawn-amser ym maes y cyfryngau, ac mae gan y Groes Goch Brydeinig a Chymorth Cristnogol swyddi rhan-amser ym maes y cyfryngau.
Mae Pwyllgor Argyfyngau Cymru wedi cytuno ar brosesau a phrotocolau ar gyfer cydgysylltu, ac mae ganddo arweinwyr cyfryngau cymdeithasol a chodi arian sy’n rheoli gwaith allgymorth yn ystod apêl.
Mae’r tîm yn addasu ac yn cyfieithu rhai o adnoddau’r Pwyllgor Argyfyngau, megis datganiadau i’r wasg, ar gyfer y wasg yng Nghymru, ac mae hefyd yn nodi ac yn hyrwyddo storïau o safbwynt Cymreig.
Mae’r tîm yn dod o hyd i siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau yn y cyfryngau ac yn trefnu cyfweliadau â gweithwyr cymorth o Gymru sy’n ymateb ar lawr gwlad yn ardal yr argyfwng.
Rydym yn chwilio am asiantaeth neu gynghorydd cyfryngau dwyieithog sy’n gweithio ar ei liwt ei hun i gefnogi aelodau Pwyllgor Argyfyngau Cymru i gynyddu eu gweithgarwch yn y cyfryngau yn ystod pythefnos yr apêl nesaf.
Bydd hyn yn gofyn am ychydig o waith paratoi ymlaen llaw a’r gallu i ymateb o fewn 24 awr ar ôl argyfwng neu ar ôl penderfynu cynnal apêl.
Bydd y canlyniadau’n cynnwys …
Gweithio gydag arweinydd y cyfryngau a’r chwe aelod-asiantaeth i ddod o hyd i lefarwyr a’u hyfforddi ymlaen llaw.
- Addasu datganiadau i’r wasg y Pwyllgor Argyfyngau ar gyfer y farchnad Gymreig yn ystod apêl.
- Dod o hyd i onglau a’u datblygu ar gyfer y farchnad Gymreig yn ystod apêl.
- Briffio a pharatoi llefarwyr, cydgysylltu cyfweliadau a sicrhau cyfleoedd.
- Gweithio gyda’r tîm cyfryngau cymdeithasol i addasu ac ysgrifennu cynnwys digidol ar gyfer sianeli Pwyllgor Argyfyngau Cymru.
A fyddech cystal ag anfon datganiad o ddiddordeb un dudalen, yn amlinellu pa brofiad ac arbenigedd yr ydych yn eu cynnig, drafft o gynllun gwaith byr a strwythur talu arfaethedig erbyn dydd Gwener 7 Hydref at Anna Ridout yn aridout@dec.org.uk a Kirsty Davies-Warner yn KDavies-Warner1@oxfam.org.uk.