Erbyn diwedd 2015, roedd dros 65 miliwn o bobl wedi’u dadleoli ledled y byd, felly nid yw hi’n syndod bod materion sy’n ymwneud â ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudo yn cael lle blaenllaw yn y newyddion yn rheolaidd.
Fodd bynnag, mae athrawon yn aml yn ystyried y materion hyn yn rhai heriol i’w trin yn yr ystafell ddosbarth. Pa ffordd yw’r orau ar gyfer trafod pynciau mor sensitif â phobl ifanc?
Gall dinasyddiaeth fyd-eang arfogi athrawon a’u dysgwyr â’r sgiliau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd yw un o ddibenion craidd y cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru, ac mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cynnig y cyfle i wneud hyn.
Yn ystod tymor yr hydref eleni, mae Oxfam Cymru wedi ymuno â Chanolfan y Dechnoleg Amgen a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru i gynnig dau gyfle i ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru.
Gweithdai ar gyfer athrawon
Gwahoddir athrawon ysgolion uwchradd a thiwtoriaid colegau i wneud cais am le ar weithdy undydd, rhad ac am ddim, a fydd yn helpu athrawon i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â ffoaduriaid, i ddysgu am fethodolegau dinasyddiaeth fyd-eang, i ddarganfod syniadau newydd ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd, ac i feithrin hyder wrth drafod pynciau heriol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
- 23 Tachwedd yng Nghaerdydd
- 29 Tachwedd yn Abertawe
- 1 Rhagfyr yn Wrecsam
Prosiect dinasyddiaeth fyd-eang ar gyfer pobl ifanc
Mae ChangeMakers yn brosiect dinasyddiaeth fyd-eang gweithredol a fydd yn helpu pobl ifanc i ddysgu am yr argyfwng ffoaduriaid a symudiadau pobl, i ddatblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol, a’u galluogi i feithrin profiad fel addysgwyr cyfoed.
Dewch i ddarganfod rhagor am y prosiect a sut i ymgeisio ‘nawr
Mae’r prosiectau hyn yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth gan Oxfam Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Fe’u hariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Addysg Ryngwladol British Council Cymru.