Y mis hwn, bydd Oxfam Cymru yn ymuno gydag Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru i Godi Llais dros y bobl, y lleoedd a’r pethau rydym am eu hamddiffyn rhag newid hinsawdd – a gallwch ymuno â ni hefyd.
Pobl dlotaf y byd yw’r rhai sy’n cael eu taro cyntaf a’u heffeithio waethaf gan newid hinsawdd. Mae Oxfam yn gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd am ei fod yn bytholi ac yn gwaethygu’r tlodi mae gwaith Oxfam yn ceisio ei oresgyn.
Mae pobl sy’n byw mewn gwledydd sy’n datblygu 20 gwaith yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan drychinebau sy’n gysylltiedig â hinsawdd – megis llifogydd, sychder, a chorwyntoedd – na’r rhai ohonom sy’n byw yn y byd diwydiannol. Ac yma yn y DU, teuluoedd incwm isel ac eraill dan anfantais – y rhai sy’n cyfrannu lleiaf at achosi newid hinsawdd – yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio ganddo.
Felly, beth allwn ni ei wneud am y peth? Beth all Cymru ei wneud am y peth? Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod fframwaith cryf ar gyfer gweithredu, ond gyda Chynulliad newydd ar waith ers mis Mai, mae angen i Gymru ddangos i’r byd bod mynd i’r afael â newid hinsawdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Mae angen i Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau hyn, ac mae angen i holl Aelodau’r Cynulliad ddangos eu hymrwymiad i weithredu ar newid hinsawdd. Y mis hwn, gallwch helpu i sicrhau eu bod yn gwneud hynny trwy ymuno gydag ymgyrch Codi Llais.
I fod yn rhan o ymgyrch Codi Llais Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, gallwch naill ai drefnu digwyddiad yn eich ardal chi neu ymuno â digwyddiad, lle gallwch ddechrau’r sgyrsiau allweddol hynny am newid hinsawdd. Bydd ACau ac ASau yn cael eu gwahodd draw hefyd, fel bod gwleidyddion yn gweld, teimlo a chlywed faint yr ydych yn poeni am yr hyn y gallem golli i newid yn yr hinsawdd. Beth am gymryd golwg ar rai o’r digwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal ledled
Cymru?
Felly ymunwch â ni i Godi Llais ac i alw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun uchelgeisiol o sut i gyrraedd ein targedau lleihau carbon yn llawn a sut i weithredu’n gynt i greu economi carbon isel yng Nghymru.
Ymunwch â ni i Godi Llais er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweld, clywed ac yn teimlo awydd ac angerdd y Cymry am weithredu a mynd i’r afael â newid hinsawdd yn ystod y cyfnod allweddol hwn.
Hyd yn oed os nad ydych erioed wedi mynychu neu drefnu digwyddiad fel hyn o’r blaen, nawr yw’r amser i gymryd rhan! Gall Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru eich cynghori a’ch cefnogi ar hyd y ffordd, felly beth am fynd ati i ddarganfod mwy heddiw, ac i’n helpu i Godi Llais dros bawb a phopeth sy’n cael eu heffeithio gan newid hinsawdd ar draws y byd.