Heddiw yng Nghymru, mae tua chwarter y boblogaeth – 700,000 o bobl – yn byw mewn tlodi.
Yr hyn sy’n fwy o syndod, efallai, yw bod gan lawer o’r bobl hyn swyddi. Mae Cymru’n wynebu problem benodol o ran cyflogau isel, ac mae mwy nag un o bob pump o’r gweithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw.
Cyfradd tâl gwirfoddol yw’r Cyflog Byw. Mae’n cael ei phennu’n annibynnol, yn seiliedig ar gostau byw sylfaenol. Mae’r Cyflog Byw newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn £8.45 yr awr.
Yr wythnos hon yw Wythnos Cyflog Byw, sef dathliad ledled y DU o’r Cyflog Byw. Mae’n gyfle i ni i gyd arddangos y cyflogwyr hynny, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, sy’n talu’r Cyflog Byw, ac i ddangos i eraill pam y mae talu cyfradd fesul awr i bobl, sy’n gysylltiedig â chostau ffordd o fyw sylfaenol, yn cynnig manteision i gyflogwyr, yn ogystal ag i weithwyr.
Mae Oxfam Cymru wedi bod allan yn siarad â chyflogwyr a gweithwyr ledled Cymru am yr hyn y mae’r Cyflog Byw yn ei olygu iddyn nhw.
Cawsom sgwrs ag Anna Wilcox, Cynorthwyydd Domestig ym Mhrifysgol Caerdydd, am yr effaith y mae cael y Cyflog Byw wedi ei chael ar ei bywyd. “Roedd gennyf ddwy swydd o’r blaen, a hynny er mwyn ennill digon bob mis i gael deupen llinyn ynghyd, a chael ychydig dros ben i’w wario ar fy mhlentyn. Mae fy merch yn hoffi mynd i’r pwll nofio weithiau, neu i Starbucks! Felly roedd gennyf ddwy swydd, ond roedd yn golygu llawer o ruthro o gwmpas. Ei chasglu hi o’r ysgol, rhuthro ei swper, aros i’w brawd ddod adref er mwyn i mi allu mynd yn ôl i’r swydd arall, ac yna
ddod adref yn hwyr ac yn rhy flinedig i ryngweithio â hi”.
Cyfarfuom hefyd â John Burns, Rheolwr Gyfarwyddwr Burns Pet Food Nutrition yng Nghydweli, i drafod pam y mae’r cwmni’n talu’r Cyflog Byw i’w staff. Meddai John, “Dywedodd fy niweddar dad yng nghyfraith mai diben gwneud arian yw er mwyn iddo gael ei rannu, a bod yr economi’n dibynnu ar bobl yn gallu bod yn gyfforddus yn ariannol, er mwyn iddynt allu fforddio prynu a defnyddio gwasanaethau. Mae’n bwysig i’r gymuned gyfan fod ymdeimlad o gydraddoldeb a thegwch yn y gymuned yn gyffredinol”.
Er bod straeon cadarnhaol o’r fath i’w cael ledled Cymru, mae gormod o bobl o hyd yn profi tlodi mewn gwaith. Nid yw’r Cyflog Byw yn ateb pob problem, ond mae’n gam cyntaf gwych tuag at drechu tlodi. Mae byw yng Nghymru ar lai na’r Cyflog Byw yn fater o oroesi. Nid yw Oxfam Cymru am weld Cymru sy’n goroesi, ond Cymru sy’n ffynnu. Dylai’r Llywodraeth a busnesau wneud popeth posibl i sicrhau bod pob gweithiwr yng Nghymru yn cael cyflog sy’n ei alluogi i ffynnu.
Gwyliwch ein fideo Wythnos Cyflog Byw ‘nawr – a chofiwch ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol!