Digon yw digon: Gyda’n gilydd gallwn gael gwared ar drais yn erbyn merched

Mae’n ffaith dorcalonnus fod un o bob tair o ferched yn fyd-eang yn debygol o ddioddef trais rhywiol neu gorfforol yn ystod eu bywydau. 

Mae merched yn wynebu’r bygythiad o drais bob diwrnod; yn y gweithle, yn y cartref neu yn yr ysgol, ac mae hyn yn difrodi datblygiad merched, iechyd a chyfleoedd. Mae’n argyfwng byd-eang, ac yn rhwystr anferth i’r ymgyrch i roi terfyn ar dlodi yn y byd. Ar ddydd Gwener, 23 Tachwedd, bydd Oxfam yn cymryd rhan mewn 16 diwrnod o weithredu i ymgyrchu er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn merched. O India i Guatemala, bydd Oxfam yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys cynyrchiadau theatr, ffilmiau, cystadlaethau a gwersi mewn ysgolion.

Felly pam ei bod hi’n bwysig mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched? Mae’n gam amlwg yn erbyn hawliau dynol, mae trais yn erbyn merched hefyd yn caethiwo merched i dlodi, sy’n effeithio ar eu cyfleoedd o gael gyrfa dda, bywyd iach, a’r pŵer i arwain eu bywydau eu hunain. Mae trais, a’r bygythiad o drais yn golygu fod y cyfleoedd sydd ar gael i ferched yn llawer llai, er enghraifft, mae’r bygythiad o drais yn gallu rhwystro merched rhag mynd i’r ysgol, dod o hyd i waith, neu hyd yn oed adael y tŷ. Mae trais yn erbyn merched hefyd yn rhwystr i’r
ymgyrch i gael gwared ar dlodi. Mae’n creu cylch dieflig o drais yn arwain at dlodi, a thlodi’n arwain at drais. Mae iechyd merched yn cael ei ddifrodi hefyd, gydag afiechydon, a niwed meddyliol a chorfforol yn rhwystro merched rhag gweithio a chyfrannu i gymdeithas.

Felly sut y mae Oxfam yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem? Rydym yn ymgyrchu i newid cyfreithiau a pholisïau fydd yn helpu i ddileu trais yn erbyn merched o’r gymdeithas ehangach. Mae stopio trais rhag digwydd yn y cartref hefyd yn rhan hanfodol o waith Oxfam, sy’n hollbwysig gan fod y broblem yn aml iawn yn cychwyn yn y cartref. Mae Oxfam hefyd yn cefnogi goroeswyr trais, yn ogystal ag arwain prosiectau yn fyd-eang sydd yn grymuso merched i arwain eu bywydau eu hunain.

Yn galonogol, yn gynnar yn 2015 daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Llywodraeth Cymru i rym, sydd yn anelu i wella ymateb y sector gyhoeddus yng Nghymru i drais a cham-drin. Wrth edrych tuag at y dyfodol ac o amgylch y byd – yn enwedig wrth ystyried deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a ddylai helpu Cymru i fod yn genedl gyfrifol fyd-eang – gallai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gefnogi’r gwaith ar y llwyfan rhyngwladol. Mae modd gwneud hyn wrth wneud yn siŵr fod eu partneriaid rhyngwladol, cysylltiadau a rhyngweithiad yn
blaenoriaethu dileu trais yn erbyn merched, a chynnal yr un gwerthoedd yn eu gwaith a’u sefydliadau.

Ond beth fedrwn ni ei wneud i gael gwared ar drais yn erbyn merched o ddydd i ddydd? Mae siarad, trafod a herio agweddau yn ffyrdd pwysig o ddylanwadu a helpu i newid credoau. Wrth drafod y mater yn agored, ar gyfryngau cymdeithasol, yn gyhoeddus neu yn y cartref, mae dealltwriaeth pobl yn gwella, sy’n dod a ni un cam yn nes at fyd heb drais yn erbyn merched. 

Beth am gymryd golwg ar ein fideo ymgyrchu a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol? I ddysgu mwy am waith Oxfam i gael gwared ar drais yn erbyn merched, ewch i: https://www.sayenoughtoviolence.org/