Mae ‘na fwydyn yn fy nhoiled!: Beth y mae Oxfam yn ei wneud i Ddiwrnod Toiledau’r Byd

Mae toiled yn ddarn syml o dechnoleg sy’n cael ei gymryd yn ganiataol pob dydd, gan y rhai sydd yn ddigon lwcus i fod yn berchen ar un.

Ond, yn anffodus, nid oes gan 2.4 biliwn o bobl –   sy’n cyfateb i 32% o boblogaeth y byd – fynediad at doiled safonol, ac nid oes gan 54% o boblogaeth y byd fynediad at doiledau glân. Dyna pam fod Tachwedd 19 yn Ddiwrnod Toiledau’r Byd, ac mae Oxfam Cymru yn ymuno â’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac i daclo’r broblem hon sy’n effeithio gymaint o bobl.

Mewn ardaloedd ar draws y byd, mae yna ddiffyg o adnoddau glendid. Mae hyn yn aml yn arwain at salwch ag afiechydon, gyda 315,000 o blant yn marw’n flynyddol oherwydd dolur rhydd. Nid oes gan un o bob deg o bobl ddewis arall ond i ysgarthu allan yn yr awyr agored. Mae diffyg toiledau yn effeithio ar bob agwedd o fywyd; heb system glendid addas, mae iechyd, diogelwch, a swyddi’n cael eu heffeithio.

Mae tlodi yn un achos amlwg i’r broblem, ac mae rhyfeloedd a thrychinebau naturiol yn gwaethygu’r broblem wrth ddinistrio isadeiledd a dadleoli pobl. Mae diffyg glendid hefyd yn achosi 17% o farwolaethau yn y gweithle, gan effeithio ar gynhyrchedd a morâl.

Brawychus hefyd yw’r ffaith bod y broblem yn waeth i ferched, gan fod un ymhob tair merch mewn perygl o drais rhywiol ag afiechydon oherwydd diffyg toiledau addas. Mae gwersylloedd ffoaduriaid a dyngarol yn enghreifftiau o leoedd gyda safonau glendid gwael, ac mae ffactorau fel diffyg golau tu allan i doiledau yn cyfrannu at y broblem o drais rhywiol i ferched.

Er bod y sefyllfa i’w weld yn ddigalon, mae yna bethau y medr eu gwneud i wella’r sefyllfa. Mae defnyddio mwydod teigr (tiger worm) yn un ffordd newydd o daclo’r broblem. Mae’r mwydod (mwydyn daear sy’n ffynnu mewn carthion a chompost) yn treulio unrhyw wast solid, tra bod y dŵr yn cael ei ffiltro trwy haenau o siarcol, tywod a graean.  Mae’n ffordd wych o ddarparu toiledau glan mewn ardaloedd sydd heb isadeiledd – mewn gwersylloedd ffoaduriaid er enghraifft. Ateb arall ar gyfer toiledau mewn argyfwng
yw toiledau wedi’u hysbrydoli gan ddyluniadau IKEA, sydd yn darparu preifatrwydd, ag awyrgylch glanach. Y syniad yw darparu toiledau flat-packed y mae modd eu codi a’u defnyddio yn syth ar ôl argyfwng i arbed afiechydon rhag ymledu. Mae’r enghreifftiau arloesol hyn yn dangos potensial i ddarganfod a  dylunio ffyrdd newydd o drin gwastraff mewn ardaloedd sydd heb gyfleusterau nag isadeiledd. Gall hyn hefyd ddarparu gwaith ac economi cryfach i’r ardaloedd sydd eu hangen.

Mae  Diwrnod Toiledau’r Byd yn lledaenu’r neges am ba mor bwysig yw toiledau,  gan helpu pobl i sylweddoli fod toiledau glân a glendid safonol yn holl bwysig i fywyd iach; rhywbeth y dylai pawb ei gael.

I ddysgu mwy am doiledau dyfeisgar Oxfam ar draws  y byd ewch i:  https://water.oxfam.org.uk/world-toilet-day/