Ym mis Tachwedd 2016 cymerodd Hilary Williams, Pennaeth Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gyfun Aberpennar, ran mewn gweithdy* i athrawon a oedd yn archwilio addysg dinasyddiaeth fyd-eang a’r argyfwng ffoaduriaid. Yma mae Hilary’n myfyrio ar yr effaith a gafodd y gweithdy arni hi a’i dysgwyr.
Roedd gennyf sawl rheswm dros fynychu’r gweithdy ym mis Tachwedd, yn broffesiynol a phersonol. Mae gennyf ddiddordeb mewn Mewnfudo, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches fel pynciau gan fod ein newyddion yn llawn storïau o’r fath. Mae’n ennyn fy chwilfrydedd pan gaf sgyrsiau yn eu cylch gyda phobl sydd yr un mor ddiddysg â minnau am bynciau fel mewnfudo, ond y prif wahaniaeth yw eu bod yn teimlo eu bod yn cyfleu ffeithiau. Credaf mai un o swyddogaethau allweddol athro neu athrawes yw addysgu a goleuo disgyblion fel ei gilydd. Roeddwn i’n teimlo, os
oedd oedolion wedi’u drysu – a bod yn gwrtais yw hynny – ynghylch y pynciau hyn, yna felly hefyd y byddai’r disgyblion.
Am unwaith yn fy mywyd fe fynychais weithdy y gwnes ei fwynhau drwy ryngweithio a gwrando, yn enwedig pan oeddem ym mhresenoldeb ceisiwr lloches a rannodd ei stori â ni. Cefais drafferth ceisio dirnad sut mae bodau dynol yn trin ei gilydd a’r diffyg tosturi. Wrth iddi ailadrodd ei stori, camais allan o’m hesgidiau ac i mewn i’w hesgidiau hi a cheisio deall sut y byddwn i wedi ymateb i’r anghyfiawnder, y dioddefaint, yr annynoldeb a’r diffyg empathi. Roedd hi’n ymddangos fel petai’n derbyn y cyfan yn ddigynnwrf, ond wn i
ddim a fyddwn i’n gwneud hynny, nac a allwn wneud hynny. Mae’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu yn wirioneddol syfrdanol ac mae’r perygl yn annirnad. Credaf fod yn rhaid inni fod yn glir ynghylch y rhesymau pam mae pobl eisiau ceisio lloches yn y DU. A fyddai unrhyw un ohonom ni eisiau gadael ein cartrefi a’n teuluoedd yn ddisymwth i fynd i wlad bellennig pe na byddai’n wirioneddol raid i ni? Ond dyna maen nhw’n ei wneud. Mae yna ddewis arall, sef aros i weld ai hwn fydd eich diwrnod olaf. Beth fyddech chi’n ei ddewis?
Wedi imi glywed y stori hon am ddewrder, oedd yn llawn ysbrydoliaeth, nid oedd gennyf amheuaeth na ddylai hyn ddod yn rhan ganolog o Fagloriaeth Cymru ac y byddai’n rhaid i ‘Fewnfudo’ ddod yn un o bynciau’r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang, er mwyn edrych ar wahanol safbwyntiau ar y pwnc ac yna codi ymwybyddiaeth ohono ymhlith holl grwpiau blwyddyn yr ysgol. Byddai hefyd yn un o’r pynciau y byddai’r disgyblion yn ei gyflwyno yn ystod yr Her Gymunedol.
Roedd yn agoriad llygad, pan ddychwelais i’r ysgol ac esbonio hyn wrth y disgyblion, eu bod yn cytuno bod y pwnc yma yn un pwysig a pherthnasol a bod gwir angen amdano. Roeddent yn credu’n gryf bod angen addysgu eu cenhedlaeth hwy am y pwnc hwn yn hytrach na gadael i farn pobl eraill ddylanwadu arnynt.
‘Credaf fod pobl yn barnu’n rhy gyflym, a wyddwn ni mo stori pawb felly rhaid inni fod yn fodlon dysgu.’
‘Mae hwn yn bwnc pwysig; mae’n rhan o’n bywydau hyd yn oed os nad yw’n effeithio’n uniongyrchol arnom.’
* Cafodd y gweithdy hwn ei ddarparu mewn partneriaeth gan Oxfam Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Addysg Ryngwladol y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.