Rydym am weld Cymru lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’i cynllunio ar gyfer pobl

Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol.

Prin y mae’r ffigur hwnnw wedi newid ers degawd, er iddo fod yn ffocws allweddol i’r llywodraeth yng Nghymru. Yn ogystal â’r her hon, mae tlodi mewn gwaith bellach ar gynnydd – yn syml, nid yw cael swydd yn unig yn llwybr allan o dlodi, fel yr oedd yn y gorffennol.

Yn Oxfam, rydym o’r farn bod angen dull newydd o drechu tlodi yma yng Nghymru. Nid yw’r liferi ar gyfer yr holl bolisïau yn ein dwylo ni, ond mae gennym ddigon o ddylanwad i wneud gwahaniaeth. Yn ein gwaith dramor, mae Oxfam yn defnyddio’r hyn a elwir yn “ddull sy’n seiliedig ar asedau” a, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio’r dull hwn yn ein rhaglen waith yma yng Nghymru.

Yn syml, mae ein rhaglenni trechu tlodi wedi bod yn canolbwyntio am gyfnod rhy hir ar yr hyn nad oes gan bobl – incwm rheolaidd a swyddi. Mae rhaglenni a yrrir gan dargedau yn golygu bod grwpiau o bobl yn cael eu gwthio tuag at ganlyniadau tebyg, sef cymhwyster penodol, yn aml. Mae rhaglenni sy’n seiliedig ar ardaloedd daearyddol yn golygu bod y rheiny sy’n byw mewn tlodi, ond mewn cymunedau “cyfoethog”, yn cael eu methu’n gyson.

Yn hytrach, rydym am weld dull sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd gan bobl, a’u helpu i ddatblygu’r asedau hynny i lunio llwybr mwy cynaliadwy allan o dlodi. Cynlluniwyd ein rhaglen ddiweddaraf i helpu pobl i feithrin y cryfderau a’r asedau hyn er mwyn goresgyn y problemau y maent yn eu hwynebu, a bu’r rhaglen yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u hymyleiddio mewn naw cymuned ledled Cymru.

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio cyllid a chymorth unigol a hyblyg. Mae profiad pawb o dlodi yn unigryw, ac mae cryfderau ac asedau pawb yn wahanol, felly mae’n hanfodol bod cyllid y rhaglen a’r gwasanaeth a ddarperir yn ystyried hyn, a bod y rhaglen yn cefnogi pobl trwy ddarparu’r help y mae arnyn ei angen. Does dim diben talu i rywun gael cymhwyster drud, ac yntau ddim ond angen arian i brynu siwt er mwyn mynd i gyfweliad.

Sicrhaodd ein prosiect enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o £4.43 am bob £1 a wariwyd, sy’n golygu ei fod yn rhoi gwerth gwirioneddol am arian i’r llywodraeth hefyd. Dyna pam yr ydym o’r farn bod angen newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus ar bob lefel, a defnyddio dull sy’n seiliedig ar asedau i’n helpu i drechu tlodi.