Mae’n hawdd teimlo’n ddiymadferth pan fo’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 65 miliwn o bobl wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro a thrais brawychus, a bod miliynau yn rhagor wedi gorfod ffoi oherwydd trychinebau naturiol a thlodi.[i]
[i]Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Mehefin 2016: https://www.unhcr.org/news/latest/2016/6/5763b65a4/global-forced-displacement-hits-record-high.html,
Ond rhaid i ni beidio ag anghofio bod gan Gymru hanes balch o groesawu’r rheiny sy’n ffoi rhag erledigaeth a niwed (yn enwedig menywod a phlant) – traddodiad sydd unwaith eto’n fyw ac yn iach mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled y wlad. Rydym yn adnabod wynebau pobl debyg i chi a fi, sydd yn aml wedi cael eu rhwygo oddi ar eu teuluoedd, plant sydd ar eu pen eu hunain, ac rydym yn gweithredu. Mae pobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru wedi rhoi cynlluniau ar waith i gefnogi ac i groesawu.
Mae llywodraethau lleol Cymru hefyd wedi ymateb, gyda’r ffigurau diweddaraf ar fudo yn dangos bod o leiaf 397 o bobl o Syria bellach wedi’u hadsefydlu yng Nghymru trwy’r Rhaglen Adsefydlu Unigolion Agored i Niwed o Syria. Erbyn etholiadau mis Mai, bydd pob awdurdod yng Nghymru wedi croesawu Syriaid i’w cymunedau, a dylem oll fod yn hynod falch o hyn.
Ond mae yna lawer mwy i’w wneud. Mae teuluoedd o Syria yn cynrychioli ffracsiwn yn unig o gyfanswm nifer y ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Yn ogystal â chefnogi rhagor o bobl Syriaidd trwy’r cynllun adsefydlu, mae angen i gynghorau ledled Cymru ddechrau ystyried o ddifrif sut y gallant ddatblygu’r profiad a gafwyd trwy adsefydlu Syriaid, er mwyn chwarae rôl fwy gweithredol o ran croesawu a chefnogi ceiswyr lloches eraill a ddosbarthwyd i Gymru.
At hynny, mae angen gwneud mwy yn lleol i sicrhau bod pobl a groesawyd i’n cymunedau yn gallu manteisio ar y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen, a’u bod wedi’u grymuso i ddefnyddio eu sgiliau, eu haddysg a’u profiad er budd pawb.
Mae angen i lywodraeth leol ddeall pwysigrwydd cysylltiadau rhagweithiol i sicrhau cydlyniant cymunedol. Dylai cynghorau barhau i ddefnyddio iaith gadarnhaol wrth siarad am geiswyr lloches a ffoaduriaid, a siarad yn erbyn gwahaniaethu, rhagfarn neu wybodaeth ffug am bobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.